24 Ebrill 2025
Bydd S4C yn darlledu pob gêm Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 yn fyw.
Ym mis Gorffennaf eleni, bydd tîm menywod Cymru yn creu hanes wrth chwarae yn eu pencampwriaeth fawr gyntaf. Daw hyn ar ôl iddynt drechu Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer y bencampwriaeth.
Mae Cymru yn chwarae yng ngrŵp D. Bydd eu gêm gyntaf yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 5 Gorffennaf am 17:00, yna Ffrainc ar 9 Gorffennaf am 20:00, cyn wynebu pencampwyr yr Ewros bedair mlynedd yn ôl, Llewesau Lloegr, ar 13 Gorffennaf am 20:00.
Bydd gemau Pencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 ar gael i'w gwylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.
BBC Cymru fydd yn cynhyrchu gemau'r Ewros ar gyfer S4C.
Sioned Dafydd fydd yn cyflwyno, Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones yn dadansoddi gyda Dylan Ebenezer a Nic Parry yn cwblhau tîm S4C.
Daw'r cyhoeddiad cyn penwythnos mawr o bêl-droed ar S4C wrth i Wrecsam a Chaerdydd fynd benben â'i gilydd yn rownd derfynol Cwpan Menywod Cymru dydd Sul 27 Ebrill am 17:15.
Dywed Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:
"Rwy'n falch iawn bod S4C yn medru dangos holl gemau Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO y Menywod eleni.
"Ry' ni wedi gweld twf aruthrol yn y dilyniant i gemau menywod dros y tymhorau diwethaf yn yr Adran Premier ar S4C. Mae'n wych y bydd cefnogwyr nawr yn medru dilyn gemau'r tîm cenedlaethol yn yr Ewros yn y Gymraeg ar S4C, yr unig sianel lle fedrwch wylio pob un o gemau Cymru.
"Bydd cynnwys ychwanegol ar draws blatfformau S4C i gyd-fynd gyda'r gystadleuaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at ddilyn a chefnogi carfan Rhian Wilkinson mewn pencampwriaeth hanesyddol i'n tîm cenedlaethol allan yn Y Swistir."
Dywed llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru:
"Mae CBDC yn hynod falch y bydd S4C yn darlledu gemau Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 dros yr haf.
"Mae ymrwymiad y sianel i bêl-droed Cymru yn sicrhau bod y gamp yn cael ei wylio a'i gefnogi trwy gyfrwng y Gymraeg wrth i garfan Rhian Wilkinson edrych i ysbrydoli'r wlad wrth greu hanes yn eu hymddangosiad cyntaf mewn pencampwriaeth ryngwladol."
Yn ogystal â'r dair gêm ym mhencampwriaeth yr Ewros, mae S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau o gemau menywod Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd gyda'r gemau nesaf yn erbyn Denmarc ar 30 Mai a'r Eidal ar 3 Mehefin.
Manylion darllediadau S4C i'r bencampwriaeth
5 Gorffennaf: Cymru v Iseldiroedd, 17:00
9 Gorffennaf: Ffrainc v Cymru, 20:00
13 Gorffennaf: Lloegr v Cymru, 20:00
Yn ogystal ag uchafbwyntiau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd:
30 Mai: Denmarc v Cymru, 22:00
3 Mehefin: Cymru v Yr Eidal, 22:00