Y Wasg

Y Wasg

Dwy wobr i Bethan Rhys Roberts yn goron ar noson lwyddiannus i S4C yn noson Gwobrau BAFTA Cymru 2025.

5 Hydref 2025

Roedd llwyddiant i nifer o raglenni S4C yn noson wobrwyo BAFTA Cymru heno (Nos Sul, 5ed Hydref 2025).


Bethan Rhys Roberts oedd enillydd Gwobr Sian Phillips eleni am ei chyfraniad arbennig i fyd darlledu, a cipiodd Bethan hefyd y wobr am 
y Cyflwynydd Gorau am ei gwaith yn cyflwyno Etholiad 2024. 


Wrth dderbyn y wobr diolchodd Bethan i’r tîm yn BBC Cymru oedd yn cynhyrchu’r rhaglen Etholiad 2024 a gwasanaeth Newyddion S4C.  


Ymhlith yr enillwyr eraill heno oedd y rhaglen Marw Gyda Kris (Ffilmiau Twm Twm) yn y categori Cyfres Ffeithiol. Derbyniodd S4C bob enwebiad yn y categori Rhaglen Blant gyda Deian a Loli (Cwmni Da) yn dod i’r brig y tro hwn.


Meddai Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C:


“Roedd gwylio’r holl enwebiadau heno yn atgoffa ni eto o gryfder y sector gynhyrchu yng Nghymru a pob clod i bawb oedd yn gyfrifol amdanynt.


“Hoffwn ddiolch o galon i’r enillwyr gynhyrchodd gynnwys S4C gydag ystod eang o genres a straeon gwreiddiol.”


Owain Wyn Evans oedd yn arwain y noson eleni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (yr ICC) yng Nghasnewydd oedd yn gyfle i ddathlu talent ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.

 

Mae'r holl raglenni gafodd eu henwebu ar gyfer gwobr BAFTA i'w gweld ar S4C Clic.