Y Wasg

Y Wasg

Chwech o bobl ifanc yn cael profiad unwaith mewn bywyd wrth i Bar Hansh agor ei ddrysau

24 Hydref 2025
Chwech o bobl ifanc. Un bar. £5000. 
Mae chwech o bobl ifanc ar fin cael profiad unwaith mewn bywyd wrth redeg bar Cymreig cyntaf y strip yn Zante. 

Mae gwobr ariannol o £5000 yn y fantol, ac mae’n rhaid i’r cystadleuwyr weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod y diodydd yn llifo a’r bar yn llwyddo. 

Ond mae tro yng nghynffon y gystadleuaeth, wrth i’r cystadleuwyr bleidleisio i roi’r sac i un o’r criw bob wythnos. 

Bydd y bos, Ameer Davies-Rana, yn cadw llygad craff ar y chwech, wrth iddyn nhw ddod i delerau gyda heriau rhedeg bar yn un o leoliadau gwyliau mwyaf poblogaidd Ewrop. 

Bydd Bar Hansh yn darlledu am 21.00 ar 24 Hydref ar S4C ac ar gael i'w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer ben bore

Ar ôl pob pennod, bydd y fodcast Codi’r Bar yn cael ei ryddhau, lle bydd Actavia yn trafod holl straeon y Strip gyda gwesteion amrywiol. 

Dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C: “Mae’r fformat gwreiddiol hwn yn dangos bod S4C yn gallu cystadlu gyda chynnwys ffres a chyffrous. 

“Gyda chymeriadau lliwgar a’u helyntion dramor, mae’r gyfres yn siŵr o fachu cynulleidfaoedd o’r bennod gyntaf un, wrth i S4C agor drysau Bar Hansh.” 

Felly, pwy yw’r chwech lwcus sydd yn cael profiad bythgofiadwy yn yr heulwen Groegaidd? 

Angharad, 23, o Abertawe 
Mae Angharad yn gweithio fel technegydd eiliau ac yn dweud fod ganddi “ddim cywilydd”. 
“Fi’n siaradus, fi’n hyderus a just a girly girl all over,” meddai. 

Nel, 20 oed, o Lanuwchlyn 
Mae Nel yn astudio milfeddygaeth ym Mhrifysgol Harper Adams ac yn dweud y byddai ei ffrindiau’n ei disgrifio fel person “annoyingly hapus”. 
“Dwi jyst y person mwyaf positif yn y byd mewn unrhyw fath o situation a dwi’n gwbod bo hwnna’n gallu bod yn annoying,” meddai. 

Rhodri, 21, o Benarth 
Mae Rhodri newydd raddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ac yn dweud ei fod yn berson “creadigol, hyderus a naturiol”. 
“Does dim Welsh bar ar y strip yn Zante so dwi’n teimlo’n browd iawn i roi Cymru ar y map,” ychwanegodd. 

Ryan, 29, o Ynys Môn 
Mae Ryan yn berchen ar siop flodau a chwmni digwyddiadau. 
“Dwi wrth fy modd yn deud wrth bobl be’ i ‘neud ond os sa rywun yn deud ‘tha fi be’ i ‘neud, sa ‘na uffar o le ‘ma,” meddai. 

Shay, 26, o Gaerdydd 
Mae Shay yn athro cyflenwi a pherfformiwr sy’n dweud y byddai’n barod i daflu rhywun dan fws er mwyn sicrhau’r wobr ariannol. 
“Dwi’n gallu bod yn calm iawn neu dwi’n gallu bod yn llawer i ddelio gyda. Take me as I come, hwnna’n beth dwi’n deud i pawb,” meddai. 

Tam, 25, o Lanllfyni 
Mae Tam yn gweithio fel rheolwr bar yng Nghaernarfon ac yn disgrifio’i hun fel “party animal”. 
“Dwi rili ddim yn mynd ymlaen hefo pobol fake, pobol sy’n trio rhoi persona ar sydd literally ddim yn nhw i drio impressio pobol,” meddai.