
25 Tachwedd 2025
Mae TG4, BBC Northern Ireland ac S4C yn falch o gyflwyno comisiwn ar y cyd sy'n nodi carreg filltir: y ffilm Nadoligaidd animeiddiedig gyntaf sydd wedi’i chreu trwy gydgynhyrchiad rhwng tair cenedl a'i chefnogi gan Cronfa Ddarlledu'r Iaith Wyddeleg (ILBF), Cronfa Sgrin a Coimisiún na Meán.
Bydd y ffilm Nadoligaidd nodedig hon yn cael ei dangos gyntaf ar 14 Rhagfyr, gan ddarlledu yn yr iaith Wyddeleg ar TG4, Cúla4, BBC Two NI a BBC iPlayer ac yn Gymraeg ar S4C.
Cynhyrchwyd y ffilm gan Taunt Studios, ac mae'n gwahodd y gwylwyr i fod yn rhan o antur hudolus, dwymgalon sy’n cael ei harwain gan Nolig – neu Nollaí fel y caiff ei adnabod yn hoffus, sef carw cyffredin a chanddo gyfrinach eithriadol.
Ynglŷn â’r Animeiddiad:
Mae Nolig (neu Nollaí) yn garw cyffredin, di-nod. Efallai ei fod fymryn yn dal am garw, ond mae pawb bob amser yn dweud wrtho bod ganddo esgyrn mawr. Ers pan oedd yn fach, mae wedi bod yn mwynhau bywyd ar y fferm gyda'i deulu o bobl: ei ffrind gorau a'i chwaer, Siân, a Dad. Rydym yn cwrdd â Nolig am y tro cyntaf ar ei ben-blwydd – neu yn hytrach, ar y diwrnod y mae'r teulu'n dathlu dod o hyd iddo. Daeth yn rhan o fywydau Dad a Siân un noson o aeaf ddeng mlynedd yn ôl, pan ddaethant o hyd iddo yn y cylch cerrig ar y mynydd. Gyda dim golwg o'i deulu, aethant ag ef adref a daeth yn rhan o'r teulu. Mae blynyddoedd yn mynd heibio; mae Nolig yn brwydro yn erbyn ei faint enfawr mewn byd dynol, ond fel arall yn hoff iawn o'r gymuned y mae'n byw ynddi. Yna, un diwrnod, caiff popeth ei droi â'i ben i waered wrth iddo ddarganfod, ar ddamwain, ffaith annisgwyl sy'n datgelu y gallai, o bosibl, fod y Mawralocerws Anferthws (sef y cawr-garw diflanedig) olaf mewn bodolaeth!
Mae'r darganfyddiad hwn yn ysgogi antur, gyda Nolig a Siân yn mynd ar daith yn ôl i'r cylch cerrig i chwilio am ei wreiddiau. Ar hyd y ffordd, maent yn cwrdd â Siriol, sef ystlum di-drefn sy'n hoff o'r Nadolig ac sy'n fwy na hapus i ymuno â nhw ar eu taith. Gyda'i gilydd, maent yn cyrraedd y cylch cerrig ac yn darganfod porth i fyd arall – byd y cawr-geirw! Mae Nolig yn mynd trwy'r porth ac yn cwrdd â cawr-garw cyfeillgar sy'n ei groesawu gartref. Ond cyn iddo gael cyfle i gael rhagor o wybodaeth, mae'r porth yn dechrau cau. Gall Nolig aros yng ngwlad y cawr-geirw – y lle y mae wedi bod yn ysu am ei ddarganfod – ond mae hynny'n golygu aros blwyddyn cyn y gall weld ei deulu eto. Mae Siân a Siriol, sy'n aros ar yr ochr arall, yn colli gobaith y bydd yn dychwelyd, ond ar y funud olaf mae Nolig yn rhuthro trwy'r porth ac yn ailymuno â nhw. Efallai na all archwilio'r deyrnas newydd heddiw, ond mae'n gwybod y bydd yn gallu dychwelyd rhyw ddydd, pan fydd yn barod.
Máire Uí Choisdealbha, Cyfarwyddwr Comisiynu, TG4:
“Rydym wrth ein boddau yn comisiynu ffilm Nadolig animeiddiedig gyntaf TG4, sy'n gydgynhyrchiad gwirioneddol gyffrous â'n partneriaid gwych. Mae'r cydweithrediad hwn yn dwyn ynghyd gyfuniad eithriadol o dalent greadigol a dawn adrodd stori ddiwylliannol o Iwerddon a Chymru, gan arwain at ffilm Nadoligaidd a fydd, yn ein barn ni, yn cyfareddu teuluoedd am flynyddoedd lawer. Mae'n garreg filltir i TG4 ac yn ddathliad o ddychymyg diwylliannol a rennir ac sy'n uno ein darlledwyr. Allwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd brofi'r hud.”
Karen Kirby, Swyddog Comisiynu BBC Northern Ireland:
“Dyma'r cydweithrediad cyntaf o'i fath ar gyfer BBC Gogledd Iwerddon a BBC Gaeilge ac rydym wrth ein boddau yn ymuno â'n partneriaid darlledu ac ariannu i ddod â'r stori Nadolig animeiddiedig hyfryd hon i'n cynulleidfaoedd ar BBC iPlayer ac ar deledu BBC NI. Mae Nollaí yn stori hyfryd am gariad a pherthyn, stori byd-eang y gellir ei hadrodd mewn sawl iaith a sy'n dod yn fyw yn wych drwy dalentau actio anhygoel y cast, y tîm animeiddio a'r cerddorion. Rwy'n gobeithio y bydd yn ffilm y gall pob cenhedlaeth ei fwynhau gyda'i gilydd dros gyfnod y Nadolig."
Sioned Geraint, Comisiynydd Addysg a Phlant S4C:
“Rwyf wrth fy modd bod S4C wedi bod yn rhan o Nollaí neu Nolig yn Gymraeg. Mae hon yn ffilm animeiddiedig brydferth ac annwyl a fydd yn taro tant i gynifer o'n gwylwyr ac yn uchafbwynt ein hamserlen Nadolig i blant a theuluoedd am flynyddoedd i ddod. Bu'n wych gweithio gyda'n cyfeillion Celtaidd unwaith eto ac adeiladu ar y berthynas sy'n datblygu'n gyson rhwng TG4 ac S4C, ac mae gallu lansio'r ffilm mewn Gwyddeleg a Chymraeg ar yr un diwrnod ar y ddwy sianel yn berffaith.”
Rónán Ó Domhnaill, Comisiynydd Datblygu'r Cyfryngau gyda Coimisiún na Meán:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi cynhyrchiad Nollaí trwy ein Cynllun Cyllido Sain a Llun sy'n ymwneud â chefnogi'r broses o greu cynnwys newydd, arloesol yn yr iaith Wyddeleg a fydd yn cael ei fwynhau gan gynulleidfaoedd hen ac ifanc.”
Áine Walsh, Prif Swyddog Iaith a Diwylliant, a Phennaeth Cronfa Ddarlledu'r Iaith Wyddeleg yn Northern Ireland Screen:
“Ym mlwyddyn ein pen-blwydd yn ugain oed, mae Cronfa Ddarlledu'r Iaith Wyddeleg yn falch o gefnogi Nollaí, y ffilm Nadolig animeiddiedig Wyddeleg gyntaf i gael ei gwneud yn y Gogledd. Mae'n arddangos uchelgais a thalent ein timau creadigol lleol, a amlygodd sgìl a chydweithrediad ym mhob cam o'r prosiect. Bydd y stori Nadoligaidd hon, sy'n llawn chwedloniaeth Wyddelig, yn cyfareddu cynulleidfaoedd ac yn cynnig profiad Nadoligaidd ar y cyd i'r teulu cyfan yn yr iaith Wyddeleg. Rydym yn hynod o falch y bydd yn cael ei gweld ar BBC NI, TG4, Cúla4 a S4C, gan amlygu cryfder cynnwys o ansawdd uchel sy'n cael ei greu yn lleol ar gyfer teuluoedd ledled Iwerddon a thu hwnt.”
Tom Getty, Taunt Studios / Aisling McElroy, Taunt Studios:
“Mae pob un ohonom yn TAUNT wedi cael amser mor wych yn creu ein ffilm fach Nollaí. Fel criw o bobl sy’n caru’r Nadolig, roedd gallu treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn dod â hyn yn fyw fel gwireddu breuddwyd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth BBC NI, TG4 a S4C, yn ogystal â’n harianwyr ILBF, Sgrin Gogledd Iwerddon a Coimisiún na Meán. Rydym yn gobeithio y byddwch chi i gyd yn ei hoffi cymaint ag yr ydym ni.”
Gwybodaeth Ddarlledu