
3 Rhagfyr 2025
Mae Mike Bubbins wedi herio’i hun i ddysgu Cymraeg, wrth i’r comedïwr obeithio dod yn un o’r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ond er bod Mike yn dweud ei fod am gymryd y dasg o ddifrif y tro hwn, mae ei ferch Elli yn ei atgoffa ei fod wedi addo dysgu Cymraeg o’r blaen ond heb gadw at ei air.
Yn y bennod gyntaf o Mike Bubbins: Un Mewn Miliwn, a fydd ar S4C ar 7 Rhagfyr am 20.00 ac ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer, gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg, mae’n mynychu dosbarth y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Yn ystod y gyfres, mae’r seren Mammoth, a gafodd ei fagu yn Y Barri, yn dychwelyd i’w hen ysgol i weld sut mae’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yn cael eu trochi yn yr iaith.
“Roeddwn i’n nerfus am anfon fy mhlant i ysgol Gymraeg pan oedden nhw’n fach,” meddai.
“Syniad fy ngwraig oedd hynny mewn gwirionedd. Doedden i ddim yn siŵr amdano o gwbl, oherwydd mae’r Saesneg yn bwysig os ydych chi’n byw yn y wlad hon, ond maen nhw’n caru fe. Eu cenhedlaeth nhw fydd y genhedlaeth i drwsio fe.
“Hoffwn i fod yn un o’r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dwi’n meddwl bod hynny’n realistig, treian o’r boblogaeth. Dwi eisiau bod yn un mewn miliwn, dyna’r cynllun.”
Ar hyd y gyfres, mae Mike yn cyfarfod â phobl o bob cwr o Gymru sydd yn newydd i’r iaith ac sydd ar eu teithiau unigryw eu hunain i fod yn un mewn miliwn.
Wrth i’w hyder gynyddu, mae Mike, sy’n cyflwyno’r podlediad The Socially Distant Sports Bar, yn dweud y byddai’n dymuno cyflwyno podlediad yn y Gymraeg rhyw ddydd.
Er mwyn cael ei ysbrydoli, mae’n siarad gyda Nick Yeo, sy’n cyflwyno’r podlediad i ddysgwyr a siaradwyr newydd, Sgwrsio.
Yng ngŵyl Tafwyl, mae’n cael ei gyfweld ar y teledu yn y Gymraeg am y tro cyntaf ac yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb ym mhabell y dysgwyr.
Mae nifer o wynebau cyfarwydd hefyd yn ymuno â Mike ar ei daith i ddysgu Cymraeg, gan gynnwys Syr Gareth Edwards, Theo Cabango, Mari Beard, Aleighcia Scott, Eleri Siôn ac hyd yn oed ‘Elvis’.
Ar ddiwedd y flwyddyn, aiff Mike i’r Senedd i holi’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, a yw wedi gwneud digon i gyfrif fel un mewn miliwn.