
4 Rhagfyr 2025
Mae ‘Flamebaster’ yn ôl am gyfres newydd ar S4C, a’r tro hwn mae Chris Roberts yn Japan i gael blas o fwyd y wlad.
Yn Llond Bol o Japan, bydd yn cyfarfod â rhai o brif gogyddion y wlad a phobl o Gymru sydd wedi syrthio mewn cariad â’r lle.
Bydd y gyfres dair-rhan yn dechrau ar S4C ar 9 Rhagfyr am 21.00 ac fe fydd y gyfres gyfan ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer o’r un dyddiad.
Mae taith Chris yn dechrau yn Fukuoka ar ynys mwyaf deheuol Japan, lle mae’n cwrdd â’r seren cyfryngau cymdeithasol a meistr y sushi Chef Takayoshi Watanabe.
Mae un math o fwyd mae Chris yn eithriadol o awyddus i drio – sef byrger enwog Chef Taka, ond nid byrger arferol mohono, mae’n brofiad blasu hollol unigryw.
I ddiolch i Chef Taka am y croeso cynnes, cyn pen dim mae Chris wrth y tân, gan ddefnyddio cynnyrch Japaneaidd lleol i greu gwledd danllyd sy’n dathlu’r gorau o fwyd Cymru a Japan.
Dim ond dechrau ei daith epig oedd Fukuoka. Oddi yno, teithiodd Chris i ddinas hynafol Kyoto, crwydrodd o amgylch temlau tawel a pharciau ceirw Nara, cyn cyrraedd Osaka – dinas sy'n cael ei hadnabod fel “cegin Japan.”
Cafodd hefyd y cyfle i grwydro’r arfordir o amgylch Misaki cyn gorffen ei daith arbennig yn Tokyo, reit yng nghanol un o ddinasoedd mwyaf bywiog y byd.
Dywedodd Chris ‘Flamebaster’ Roberts: “Heblaw am ambell frathiad o sushi neu bowlen o ramen ‘nôl adra, dwi ddim rili ‘di cael cyfle i fwyta bwyd y wlad ‘ma, ond ar y daith yma, ma’ hynny’n mynd i newid.
“Ma’ diwylliant bwyd Japan yn hollol unigryw, a dwi isio bwyta fo i gyd.”
Ychwanegodd Beth Angell, Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C: “Mae cael profi diwylliant bwyd a diod Japan drwy lygaid Chris - sydd wedi bod eisiau ymweld â’r wlad ar hyd ei oes - wir yn bleser o'r mwyaf. Mae gallu gwireddu breuddwyd i Chris a dod â rhaglen mor gyfoethog o ran diwylliant a lliw yn destun balchder i ni yn S4C.”
Ychwanegodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Roedden ni’n falch iawn i fedru comisiynu cyfres Llond Bol o Japan fel rhan o’r flwyddyn arbennig hon. Cyfres sydd yn rhoi’r cyfle i Chris yn ei ffordd unigryw ei hun i ddangos ein byd drwy’r Gymraeg, a chyfle euraid i barhau i adeiladu ar y perthnasau rhwng y ddwy wlad drwy gynnwys beiddgar sy’n rhannu Cymru, a’r Gymraeg, gyda’r byd.”
Mae Blwyddyn Cymru a Japan 2025 Llywodraeth Cymru wedi dangos grym cyfnewid diwylliannol a chydweithio. Mae hi wedi dathlu a chryfhau enw Cymru fel gwlad sy’n gwerthfawrogi creadigrwydd, arloesi, a chynaladwyedd, ac wedi agor drysau i bartneriaethau a fydd yn buddio Cymru a Japan am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: "Rydym wrth ein bodd bod Llond Bol o Japan S4C yn dangos y cysylltiadau diwylliannol cryf rhwng Cymru a Japan. Mae Blwyddyn Cymru a Japan 2025 yn ymwneud â dathlu a chryfhau'r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad, ac mae'r gyfres hon yn enghraifft wych o sut y gall bwyd, iaith a chreadigrwydd ddod â ni'n nes at ein gilydd. Mae'n wych gweld diwylliant Cymreig yn cael ei rannu gyda'r byd yn ystod y flwyddyn arbennig hon o ddathlu."
Cafodd y gyfres ei lansio mewn digwyddiad diweddar yn Japan House, Llundain, gyda chyfuniad o fwyd Cymreig a Japaneaidd wrth law, wrth i Chris rannu mwy am ei daith fythgofiadwy.