
10 Rhagfyr 2025
Mae Channel 4, S4C a Little Wander yn hynod o falch o gyhoeddi trydedd fersiwn Comedy Lab Cymru, sef rhaglen ddatblygu ar gyfer talent comedi ymhlith Cymry (a'r rhai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru).
Mae'r ceisiadau bellach yn agored, a'r dyddiad cau yw 12 Ionawr.
Nod y rhaglen yw creu cyfleoedd newydd i dalent gynyddol amlwg ymhlith Cymry (a'r rhai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru) mewn comedi a theledu, gan ddarparu amser datblygu â thâl, mentora proffesiynol, dosbarthiadau meistr yn y diwydiant, a chyfleoedd i artistiaid ehangu eu gwybodaeth am y diwydiant comedi a'u profiad ohono.
Bydd yr awduron a'r perfformwyr a ddewisir yn cael eu paru â mentoriaid i weithio ar ddarnau comedi i'w harddangos i gynulleidfaoedd a chomisiynwyr S4C a Channell 4 yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth yn 2026.
Dewisir chwe chyfranogwr ar gyfer y rhaglen, a bydd o leiaf hanner ohonynt yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwyliwn i'r cyfranogwyr hyn fod ar gamau amrywiol yn eu gyrfaoedd, ac rydym yn ymrwymedig i deilwra'r rhaglen i weddu i'w hanghenion unigol.
Roedd cyfranogwyr 2025 yn cynnwys Mel Owen (a fentorwyd gan Anna Jordan), Cerys Bradley (a fentorwyd gan Molly Naylor), Harri Dobbs (a fentorwyd gan Freya Parker), Fflur Pierce (a fentorwyd Carys Eleri), Carwyn Blayney (a fentorwyd gan Tom Parry) a Gruffudd Owen (a fentorwyd gan Dan Thomas).
Trwy gydol y flwyddyn, buont yn gweithio ar sgriptiau comedi sefyllfa, setiau ar eu sefyll, sioe ryngweithiol dewis-eich-antur-eich-hun, a sioe sgetsys. Y llynedd roedd gennym gyfranogwyr yn gweithio ar gomedi gerddorol a sioe amlgyfrwng – allwn ni ddim aros i weld beth fydd gan y flwyddyn nesaf i'w gynnig.
Mae cyfranogwyr 2024 a 2025 i gyd wedi dweud bod y rhaglen wedi eu helpu gyda'u sgiliau ysgrifennu a pherfformio, yn ogystal ag o ran rhwydweithio a phrofiad o'r diwydiant. Daethant allan o'r rhaglen gyda sgriptiau treialu comedi sefyllfa parod i'w cyflwyno, sioeau awr o hyd ar eu sefyll, credydau ysgrifennu ar gyfer radio, rhagor o gydnabyddiaeth yn y diwydiant, a llawer mwy.
“Ro'dd bod yn rhan o'r Comedy Lab yn gyfle gwych i mi gael mentoriaeth strwythuredig, a ches i ofyn y cwestiynau dw i wedi teimlo'n rhy wirion i'w holi yn y gorffennol! Dw i'n reit genfigennus na cha' i wneud y cynllun eto!” – Mel Owen, Cyfranogwr Comedy Lab Cymru 2025
“Ro'dd y fentoriaeth yn amhrisiadwy. Fe wnes i elwa cymaint wrth weithio un i un gyda fy mentor. Gwnaeth y rhaglen yn siŵr fy mod i wedi mynd ati i ysgrifennu fy sgript ond hefyd fod y sgript gymaint yn well o dan ei harweiniad hi. Fe wnes i hefyd elwa llawer o'r gweithdai; cawson ni glywed gan lawer o safbwyntiau gwahanol yn y diwydiant. Wedi dweud hynny, fy hoff beth oedd cwrdd â'r holl bobl eraill ar y rhaglen. Siaradais â llawer ohonyn nhw am fy sioe a'm perfformiadau, a dw i'n falch iawn fy mod i wedi gwneud y cysylltiadau hynny, ac yn gobeithio y byddan nhw'n para y tu hwnt i'r rhaglen.” – Cerys Bradley, Cyfranogwr Comedy Lab Cymru 2025
“Byddwn i’n argymell Comedy Lab Cymru i bawb sy’n gallu gwneud cais. Dw i wedi elwa cymaint ohono – o gwrdd â phobl anhygoel yn y diwydiant, cael ysgrifennu a pherfformio mewn arddangosfeydd gwych, a chydweithio â phobl wirioneddol ddoniol a thalentog.” – Carwyn Blayney, Cyfranogwr Comedy Lab Cymru 2025
Gallwch gyrchu'r ffurflen gais yma: littlewander.co.uk/comedy-lab-cymru