
11 Rhagfyr 2025
Bydd rhaglen ddogfen yn taflu goleuni newydd ar yr ystrydeb na all pobl o gefndiroedd Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd arnofio na nofio.
Seren Jones sydd yn cyflwyno’r rhaglen Seren Jones: Yn Fyw yn y Dŵr, sy’n archwilio pwnc sy’n agos at ei chalon.
Fel cyn nofiwr proffesiynol, mae’r newyddiadurwr yn awyddus i ddarganfod y gwirionedd am ystrydeb “esgyrn trymion”.
Yn ôl y myth, mae gan bobl o gefndiroedd Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd esgyrn trymach, sy’n effeithio ar eu gallu i arnofio.
Ond yn y rhaglen ddogfen, mae ymchwil newydd gan Brifysgol Portsmouth yn cael ei gyhoeddi, dan arweiniad y Black Swimming Association (BSA), a gyda chefnogaeth RNLI, gyda’r canlyniadau yn chwalu’r feddylfryd hon.
Yn y rhaglen, fydd yn cael ei darlledu ar S4C ar 11 Rhagfyr am 21.00 ac ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg, bydd Seren yn siarad gydag arbenigwyr yn y maes a phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddamweiniau a marwolaethau yn y dŵr.
Bu farw David, mab Maria Ejimofor, ym mis Gorffennaf 2023 ar ôl boddi yn y môr oddi ar draeth Aberafan, Port Talbot.
Roedd y bachgen 15 oed yn dathlu diwedd ei arholiadau TGAU gyda’i ffrindiau pan ddigwyddodd y drasiedi.
“Roedd bod o’i gwmpas yn orfoledd. Mae’n anodd mynd dros yr hyn ddigwyddodd,” meddai Maria.
“Doedd gen i ddim pryderon oherwydd ei fod wedi bod i’r traeth o’r blaen. Dywedon ni ‘Iawn, David, ond cymer ofal o dy hun’.
“Yna fe aeth, ac yn drist, fe aeth i drafferthion yn y dŵr a bu farw.”
Yn ôl ystadegau, mae 400 o bobl yn boddi yn ddamweiniol yn y DU bob blwyddyn ac mae data yn dangos bod y risg o foddi yn uwch mewn cymunedau du a brown.
Dim ond 35% o blant Cymru sy’n gallu nofio 25 metr heb gymorth – hyd y pwll unwaith.
Yn 2020, roedd Seren Jones yn un o bedwar o bobl a ddaeth at ei gilydd i sefydlu’r Black Swimming Association (BSA).
Un arall o’r pedwar oedd Alice Dearing, y fenyw ddu gyntaf i nofio dros Brydain yn y Gemau Olympaidd.
“Dwi wedi sylweddoli nad yw pobl ddu a chymysg, a phobl Asiaidd, yn cael y cyfleoedd hyn oherwydd maen nhw eisoes wedi cael gwybod ers y diwrnod y cawsant eu geni na fyddan nhw’n nofwyr effeithlon,” meddai Alice yn y ddogfen.
Mae Seren yn dychwelyd i'r UDA, lle roedd hi’n gapten ar y tîm nofio yn ystod ei hastudiaethau prifysgol, lle mae'n gweld sut mae agweddau eisoes wedi dechrau newid.
Dywedodd Seren: “Y gwir plaen yw mai hiliaeth, gwahanu ar sail lliw, a rhwystrau hanesyddol sydd wedi creu’r myth nad yw pobl ddu yn gallu nofio.
“Dyw e ddim byd i ‘neud hefo’n cyrff ni. Gall pawb ddysgu sut i arnofio. Gall pawb ddysgu nofio. Mae’r ymchwil yn profi hynny.”
Ychwanegodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C: “Dwi’n hynod o ddiolchgar i Seren a’r tîm am daflu goleuni newydd ar stori ryngwladol mor bwysig yn y rhaglen ddogfen arbennig hon.
“Ac mae’n wych o beth fod S4C yn tynnu sylw at bwnc sydd angen mwy o ymwybyddiaeth, er mwyn chwalu ystrydebau niweidiol a sicrhau bod pobl o bob cymuned yn teimlo’n ddiogel yn y dŵr.”