
14 Rhagfyr 2025
Mae'r ymladdwr Brett Johns wedi datgelu’n ecsgliwsif ar lwyfannau digidol S4C ei fod yn ymddeol o’r gamp MMA.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn ei ornest olaf neithiwr (nos Sadwrn 13 Rhagfyr), lle mae’n wynebu Nikolay “Slick Nick” Grozdev o Moldova/Iwerddon am deitl Pwysau Plu'r Byd Way of the Warrior (WOW) ym Madrid.
Mae'r cyfweliad, sydd nawr ar gael ar lwyfannau digidol S4C, yn rhoi golwg onest i gefnogwyr am ei ymddeoliad a’i yrfa sy'n ymestyn dros ddegawd, wrth i Johns, a'i wraig Carys, baratoi i groesawu ail blentyn.
Dywedodd Johns:
“Mae ymladd wedi bod yn rhan o identity fi am dros 13 mlynedd. Pob dydd dwi’n ymarfer unwaith, ddwywaith y dydd. Dwi ‘di gweld y straen ar teulu fi, gweld fy ngwraig yn gweithio gyda’r plant bach, a’r rhan fwyaf o’r amser dwi mas o’r tŷ yn gweithio ac yn ymarfer.
“Dwi jyst ishe pawb i wbod, o’dd e ddim yn benderfyniad hawdd i orffen, ond o’dd e’r penderfyniad iawn. Mae ymladd wedi rhoi gymaint i fi dros y blynyddoedd a fi’n ddiolchgar ofnadwy i’r gamp. Ond ma’ rhaid siarad amdano gwraig fi, sydd wedi bod fynna bob step o’r ffordd. Ma’r sacrifice ma’ Carys wedi ‘neud, eistedd fynna, gweld fi’n mynd trwyddo be’ o’n i’n mynd trwyddo. Nawr fi’n gallu gweld o’dd e ddim yn hawdd i hi wylio popeth. Ond nawr yw'r amser i wario mwy o amser gyda Carys, gyda Beti, gyda Giuseppe y ci. A dwi jyst ishe dweud diolch am yr atgofion. Gweld chi yn y dyfodol.”
Roedd yr ornest neithiwr wedi denu sylw sylweddol, gyda Johns yn ceisio ennill trydydd teitl byd ar ôl ennill pencampwriaethau blaenorol Cage Warriors a Titan FC. Daeth ei wrthwynebydd, Grozdev, i’r ornest gyda record broffesiynol gref a rhediad o fuddugoliaethau. Ond mae Johns yn ymladdwr pwysau bantam profiadol ac wedi cystadlu i sefydliadau mawr yr MMA gan gynnwys yr UFC, Bellator a'r PFL.
Cafodd yr ornest ei darlledu’n fyw drwy bartneriaid darlledu a ffrydio swyddogol WOW.
Mae’r cyfweliad ecsgliwsif gyda Brett Johns yn cyhoeddi ei ymddeoliad ar gael nawr ar lwyfannau digidol S4C.
Mae'r cyfweliad gyda Brett Johns ar gael i'w wylio yma: Brett Johns yn cyhoeddi ei ymddeoliad | Welsh MMA great Brett Johns announces his retirement | S4C