
16 Rhagfyr 2025
Mae Prif Weithredwr S4C Geraint Evans wedi ymateb i Bapur Gwyrdd Llywodraeth y DU ar Adolygiad Siarter y BBC.
Dywedodd Geraint Evans: “Mae S4C yn croesawu Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU ar Adolygiad Siarter y BBC a'r ymrwymiad sydd ynddo ar gyfer dyfodol cynaliadwy i S4C, wedi’i seilio ar annibyniaeth y gwasanaeth a sicrwydd ariannu digonol.
“Mae ein gweledigaeth ni ar gyfer S4C yn fwy na sianel deledu; mae'n wasanaeth digidol yn gyntaf sydd yn galluogi cydweithio ar draws y sector creadigol ac yn cyfrannu at weld y Gymraeg a Chymru yn ffynnu.
“Mae’r adolygiad hwn yn allweddol i osod sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol S4C, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Llywodraeth a phartneriaid eraill i wireddu’r weledigaeth honno er budd cynulleidfaoedd a’r sector creadigol ledled Cymru.”