Y Wasg

Y Wasg

S4C yn Gwobrwyo Tendr Cynnwys Digidol i Slam a Darlun

18 Rhagfyr 2025

Mae S4C yn falch o gyhoeddi bod cwmnïau cynhyrchu Slam a Darlun wedi ennill cytundeb i ddarparu pecyn beiddgar o gynnwys digidol wedi’i gynllunio i adlewyrchu calon, hiwmor ac enaid Cymru.

Llwyddodd Darlun, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, a Slam, sydd wedi’i leoli yn y De, i ennill y tendr cystadleuol ac fe fyddant yn cydweithio i gynhyrchu cynnwys deniadol wedi’i deilwra ar gyfer cynulleidfaoedd 25-44 oed.

Mae’r tendr yn gam pwysig i wireddu un o amcanion strategaeth S4C ‘Mwy na Sianel Deledu’ i fod yn ddigidol yn gyntaf, gyda'r amcan o ehangu gwylio gyda chynnwys beiddgar sy'n dangos ein byd drwy'r Gymraeg ar draws yr holl blatfformau.

Bydd y prosiect yn darparu 675 munud o gynnwys gwreiddiol dros gyfnod o ddwy flynedd, gydag o leiaf 275 munud wedi’i gyhoeddi cyn 31 Mawrth 2026. Bydd yr holl gynnwys wedi’i greu’n benodol ar gyfer YouTube, ynghyd â chynnwys deinamig ar gyfryngau cymdeithasol i wella ymgysylltiad cynulleidfaoedd.

Bydd y cynnwys a gynhyrchir gan Darlun a Slam yn arddangos lleisiau a diwylliant Cymreig dilys, gan gynnwys manteisio ar boblogrwydd ‘Cabarela’, grŵp cabaret Cymraeg, a ‘Rhwydwaith Menywod Cymru’, grŵp rhwydweithio bywiog ar Facebook i fenywod Cymru. Bydd y cynnwys yn fideos ffurf-fer wedi’u dylunio i sbarduno sgyrsiau gyda’r nod o gyflwyno cymunedau newydd i ddarpariaeth YouTube S4C.

Dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C:

“Rydym yn falch o gefnogi Darlun a Slam gyda’u partneriaeth newydd i greu cynnwys digidol arloesol ar gyfer cynulleidfaoedd rhwng 25-44 oed. Mae’r prosiect hwn yn

foment arwyddocaol wrth lunio dyfodol cyfryngau digidol Cymreig, gan sicrhau bod ein cynnwys yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ysbrydoledig i genedlaethau newydd.

“Mae S4C eisoes wedi darparu cynnwys digidol poblogaidd drwy lwyfannau fel Hansh, Cyw a Cwis Bob Dydd. Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ddarparu cynnwys ffres, egnïol a chynhwysol a fydd yn cysylltu’n ddigidol â chymunedau ychwanegol ledled Cymru.”

Ychwanegodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C:

“Mae’r tendr digidol hwn yn gonglfaen i’n strategaeth ‘Mwy na Sianel Deledu. Drwy fuddsoddi mewn syniadau beiddgar ac arloesol ar gyfer llwyfannau fel YouTube, rydym yn sicrhau bod lleisiau Cymreig yn ffynnu yn y mannau lle mae pobl yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser.”

Meddai Gwion Jones o Darlun am y prosiect:

“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i greu cynnwys newydd a beiddgar ar gyfer platfform YouTube S4C, a fydd hefyd yn ein galluogi fel cwmni i ddatblygu i fod yn un o’r prif gyflenwyr cynnwys digidol yng Nghymru. Rydym wedi partneru gyda rhai o frandiau mwyaf adnabyddus Cymru ac wedi creu fformatau gwreiddiol a difyr, er mwyn gwireddu dymuniad S4C i greu cymuned o wylwyr digidol byd-eang.”

Dywedodd Ffion Humphreys ar ran Slam: “Mae tîm ifanc Slam wedi cyffroi i fod yn rhan o weledigaeth ddigidol S4C, a’r cyfle i greu cynnwys ffres a gwreiddiol i’r gynulleidfa ffyddlon a gwylwyr newydd.”

Mae S4C hefyd yn datblygu rhestr o waith gyda chwmni cynhyrchu Carlam gyda phwyslais ar greu perthynas gyda chrëwyr cynnwys sydd eisoes yn bodoli.

Bydd y pecyn cynnwys digidol newydd yn cael ei lansio yn gynnar yn 2026, gan atgyfnerthu cenhadaeth S4C i aros yn berthnasol ac yn fywiog yn yr oes ddigidol.