Y Wasg

Y Wasg

Gwilym Bowen Rhys yn cael ei swyno gan Wlad y Basg mewn cyfres newydd

5 Ionawr 2026

Mae’r canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys yn ôl am gyfres newydd ar S4C, a’r tro hwn mae’n ymweld â Gwlad y Basg ac yn cael ei swyno gan ddiwylliant arbennig ei chymunedau.

Mae Gwilym yn dweud ei fod yn methu aros i ddechrau ar antur arall yn ei gyfres ddiweddaraf, Gwlad y Basg Gwilym Bowen Rhys.

Bydd y gyfres bedair rhan yn dechrau ar S4C am 20.00 ar 5 Ionawr ac ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg.

Yn y gyfres ddiwethaf, bu Gwilym ym Mhatagonia i gyfarfod ag aelodau o’r cymunedau yno lle mae’r Gymraeg yn cael ei chlywed.

Nawr, mae’n gobeithio darganfod mwy am ddiwylliant Gwlad y Basg wrth iddo ddechrau ar ei daith i ddysgu Basgeg.

Fel Cymro sydd yn gobeithio dod yn Euskaldun (siaradwr Basgeg), lle gwell i Gwilym ddechrau na chyfarfod gydag un o drigolion Gwlad y Basg sydd eisoes wedi dysgu Cymraeg.

Mae’n ymweld â Stadiwm San Memes, cartref Atheltico Bilbao – clwb pêl-droed enwocaf Gwlad y Basg.

Ac wrth iddo gael ei swyno gan Wlad y Basg ar hyd ei daith, mae Gwilym yn swyno’i thrigolion gyda’i ganu – yn y Gymraeg a Basgeg.

“Mae fy ngherddoriaeth wedi mynd â fi i sawl rhan o’r byd, ond does ‘na nunlla wedi fy swyno gymaint â’r darn o dir a elwir yn Euskal Herria, cornel fach o ogledd Sbaen a de orllewin Ffrainc,” meddai Gwilym.

“Ddes i yma i ganu 10 mlynedd yn ôl a dwi wedi dychwelyd sawl tro ond mae cymaint mwy gen i ddysgu am ei hanes, ei diwylliant, ei thraddodiadau a’i byd cerddorol. A dwi hefyd yn dechrau ar y daith o ddysgu’r iaith.”

Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C: “Ar ddechrau blwyddyn newydd, bydd nifer yn gosod addunedau am y flwyddyn i ddod a rhai efallai’n anelu i ddysgu iaith newydd.

“Mae taith Gwilym Bowen Rhys o gwmpas Gwlad y Basg yn siwrnai fydd yn gyfarwydd iawn i nifer o bobl yng Nghymru sy’n ymdrochi’n llwyr yn niwylliant y wlad wrth iddynt ddysgu ein hiaith.”