
30 Rhagfyr 2025
Ar 30 Rhagfyr, mae S4C yn gwahodd gwylwyr i ailymweld ag un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf rhyfeddol erioed i ddechrau ar dir Cymru – o strydoedd gogledd Caerdydd i fyny at gopa’r Alpe d'Huez yn Ffrainc – mewn rhaglen ddogfen newydd, Geraint Thomas: Y Daith.
Mae gyrfa Geraint eisoes wedi’i saernïo i chwedloniaeth Cymru: enillydd medal aur Olympaidd, pencampwr y Gymanwlad, a'r Cymro cyntaf i ennill y Tour de France. Ond nid edrych ar lwyddiannau Geraint yn unig wna’r rhaglen ddogfen hon, mae'n tynnu’r llen ar y dyn y tu ôl iddyn nhw – y penderfyniad tawel, yr aberth, a'r eiliadau o amheuaeth wnaeth ffurfio beiciwr a gariodd y genedl gyfan gydag ef tuag at lwyfan mwyaf y byd.
Mae hi’n raglen sydd wedi’i hadrodd i raddau helaeth yng ngeiriau Geraint ei hun, gan olrhain ei lwybr at feicio. Pan roedd yn blentyn yng Nghaerdydd, bu'n troi ei law at chwaraeon eraill cyn canfod ei le yng nghlwb beicio’r Maindy Flyers – penderfyniad a fyddai'n newid ei fywyd, a hanes chwaraeon Cymru.
"Roeddwn i'n ffodus, roeddwn i'n eithaf da ar unwaith, fe wnes i ennill ychydig o rasys yn eithaf sydyn, roeddwn i yng nghynghrair mini y Maindy, dwi'n cofio mynd mor nerfus weithiau, roeddwn i hyd yn oed yn sâl cyn ambell i ras", cofia Geraint.
Mae'r nerfau cynnar a'r talent di-amheuol yn cael eu cofio gyda gonestrwydd, ochr yn ochr ag atgofion gan y rhai a welodd yn gynnar y gallai "G" fod yn fwy na dim ond reidiwr ifanc addawol arall. Meddai Luke Rowe sydd yn ffrind agos, yn gyd-reidiwr ac yn gyd-gyflwynydd ar eu podlediad o'r enw Watts Occurring:
"Pan oedd yn 15 neu 16 dechreuodd sylweddoli y gallai fod rhywbeth yn y busnes seiclo ’ma y tu hwnt i bach o hwyl."
Wrth i'r daith fynd yn ei blaen, mae’r rhaglen yn codi'r llen ar fyd anfaddeuol beicio elît. Symudodd Geraint i Fanceinion pan yn ifanc gan ddod yn rhan o ymgyrch British Cycling i ddominyddu'r Gemau Olympaidd. Daeth llwyddiant yn gyflym gyda medal aur yn Beijing pan yn ddim ond 22 mlwydd oed, ond dyma foment y mae Geraint yn ei disgrifio fel un arbennig a hynod o ofnus yn yr un modd.
"Roedd Beijing yn wallgof, aethom i fewn i'r rownd derfynol dan bwysau enfawr, gallai un camgymeriad wrtha’ i gostio i'r tîm cyfan... chi wedi bod yn paratoi ar ei gyfer y rhan orau o ddwy flynedd. Mae yna lawer o bwysau i beidio â gwneud llanast i bawb arall hefyd. Roedd sicrhau'r aur hwnnw, wel doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n ei gael mor fuan yn fy ngyrfa ar ôl troi'n 22, felly roedd bod yn rhan o hynny yn wallgof."
Serch hynny, yr heol nid y trac, sydd wedi diffinio Geraint Thomas. Nid yw'r rhaglen ddogfen hon yn osgoi sôn am y baich corfforol ac emosiynol o fywyd o fewn y peloton: yr ymdrechion digyfaddawd am yr enillion bach, y frwydr barhaus gyda phwysau ac anafiadau, a rôl anweledig y domestique.
Mae'r bobl agosaf at Geraint, gan gynnwys ei wraig Sara a'i gyd-reidwyr hirdymor Luke Rowe ac Owain Doull, yn cynnig mewnwelediad dadlennol i'r gost o ddilyn trywydd perffeithrwydd.
Dywed Sara am ei ymdrechion i golli pwysau:
“Mae Geraint yn dawel, mae Geraint sydd eisiau bwyd braidd yn dweud dim byd. Roedd yn rhaid dysgu peidio cymryd e’n bersonol. Roedd e wedi gwella erbyn y diwedd – ymdopi gyda hangryness. Dwi ddim yn meddwl oedd e’n sylweddoli pa mor miserable oedd e. Ond roedd e part of parcel gyda beth chi’n gorfod neud.” Mae tad Sara, Eifion Thomas, hyd yn oed wedi cadw Geraint yn ei ffôn fel Captain Sunshine!
Mae Geraint yn ail-fyw'r amser yr enillodd ddau gymal yn olynol yn y Tour de France, gan gynnwys bod y cyntaf i fyny'r Alpe d'Huez sydd yn cynnwys 21 tro pedol. Arweinydd ei dîm oedd Chris Froome. Cofia Geraint:
"Aeth hi’n dda, yn amlwg collodd Froomie amser yn gynnar oherwydd damwain, roeddwn i'n eithaf hapus gyda hynny, wnaeth e ddim fy mhoeni i fod yn onest. Ar ôl i ni gyrraedd yr Alpau, dyna pryd mae'r cyfan yn troi at y coesau a pha mor ffit ydych chi'n gorfforol."
Os ydych yn cofio ble ’roeddech pan wisgodd Geraint Thomas felyn ar y Champs Élysées – neu os am ddeall sut llwyddodd bachgen o ogledd Caerdydd orchfygu’r ras anoddaf ar y ddaear – mae Geraint Thomas: Y Daith yn wylio hanfodol.