
2 Ionawr 2026
“Fi wedi rhoi lot o sleepless nights i mam”: Mike Phillips yn trafod yn agored mewn cyfweliad arbennig ar S4C
Yn ail bennod Y Cyfweliad ar S4C, mae cyn-fewnwr Cymru Mike Phillips yn trafod rhai o’r cyfnodau anoddaf yn ei fywyd, gan rannu ei straeon â hiwmor a gonestrwydd.
Fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The A-Talks (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel The Assembly) yw Y Cyfweliad - lle mae grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.
Y seren rygbi i Gymru a’r Llewod Mike Phillips yw’r ail i gymryd rhan yn y gyfres newydd hon fydd i’w gweld ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar nos Fawrth 6 Ionawr am 21.00.
Yn ystod y sgwrs, mae’n trafod yn ddidwyll am yr adegau sydd ddim wastad wedi bod yn hawdd – gan gynnwys gorfod dweud wrth ei rieni am gael ei ddal yn yfed a gyrru.
Ymysg y cwestiynau amrywiol, mae Mike Phillips yn disgrifio’r digwyddiad fel “un o’r pethau gwaethaf” mae o wedi’i wneud.
Yn y rhaglen, mae’n dweud:
“Oni mor grac gyda fy hunan achos mae e'n un o'r pethau gwaethaf fi wedi neud.
“Oni'n upset gyda fy hunan a wedi torri lawr gyda Mam a Dad a gadael pobl lawr. Ond lwcus iawn bod dim byd drwg wedi digwydd."
Ac mae’n cyfeirio nol at y cyfnod yma a dweud wrth ei rieni wrth i Jac ofyn pryd oedd y tro diwethaf iddo grio.
Mae’r rhaglen hefyd yn trafod ei fagwraeth ar fferm yn sir Gaerfyrddin, ei fywyd yn Dubai, a sefyllfa rygbi yng Nghymru heddiw.
Enillodd Mike Phillips 99 cap rhyngwladol dros Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon a rhwng 2008 a 2013, roedd yn un o fewnwyr peryclaf y gamp.
Dywedodd:
"Ni gyd yn gwbod y sefyllfa - mae e'n anodd wrth gwrs. Ni'n wlad fach - mae e'n bwysig ein bod ni'n cael tîm cenedlaethol i fod - ddim wastad yn llwyddiannus – ond mewn gemau.
“Ac yn chwarae gyda calon achos maen nhw'n cynrychioli ni gyd a ma hwnna'n rhoi gymaint o hwb i bobl felly gewn ni weld."
Mae’r bennod yn datgelu’r dyn tu ôl y gyrfa ac yn cloi gyda perfformiad teimladwy o Calon Lân gan yr Holwyr.
Bydd Y Cyfweliad – Mike Phillips ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o nos Fawrth 6 Ionawr am 21.00. Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae Bronwen Lewis ac Elin Fflur. Mae’r bennod gyntaf gyda Dafydd Iwan ar gael ar alw. Mae isdeitlau ar gael.
Nodiadau i Olygyddion:
Manylion darlledu gweddill cyfres Y Cyfweliad:
13 Ionawr - Bronwen Lewis, 21.00
20 Ionawr - Elin Fflur, 21.00