Y Wasg

Y Wasg

Drama heist Dal y Mellt yn dychwelyd i S4C gyda Matthew Gravelle yn ymuno â’r cast

31 Rhagfyr 2025
Bydd S4C yn dechrau’r flwyddyn newydd gyda chlec wrth i’r ail gyfres o’r ddrama heist boblogaidd, Dal y Mellt ddychwelyd i’r sgrin.  

Cyrhaeddodd y gyfres gyntaf garreg filltir nodedig pan ddaeth hi’n ddrama iaith Gymraeg gyntaf erioed i gael ei dangos ar wasanaeth ffrydio Netflix, gan gyflwyno cynulleidfa ryngwladol i’r gyfres dan y teitl Saesneg Rough Cut.  

Mae’r ail gyfres, fydd i’w gweld o 4 Ionawr, wedi’i seilio ar nofel Iwan ‘Iwcs’ Roberts, ‘Dal Arni’, sy’n ddilyniant i’w nofel ‘Dal y Mellt’. Unwaith eto, cawn ddilyn helyntion Carbo, Antonia a Mici a’r criw wrth iddyn nhw gael eu tynnu i fyd trosedd, brad a dialedd, sy’n ymestyn o ddociau Caerdydd i grombil tywyll strydoedd Llundain.    

Yn ymuno â’r cast y tro hwn mae Matthew Gravelle (Y Golau: Dŵr, Broadchurch Ar y Ffin, Un Bore Mercher) i chwarae rhan ‘Blew’.    

Yn ôl Matthew mae Blew yn gymeriad sy’n “byw ar ei whits tamed bach - os yw e’n gweld cyfle, mae’n cymryd e, er bod e’n ymddangos bod e braidd yn dopey a ddim yn switched on.  

“Mae’n wahanol i’r math o gymeriadau dwi wedi’u chwarae o’r blaen – ma fe lot mwy shady, ti’m yn gwybod cweit lle ti’n sefyll gyda fe – os ydi e ar dy ochr di neu eisiau cymryd mantais ohonot ti. O’n i’n meddwl bod hyna’n reit ddiddorol.”  

Ymhlith y cast sy’n dychwelyd ar gyfer yr ail gyfres mae Gwion Morris Jones (Doctor Who, Masters of the Air) fel Carbo a Mark Lewis-Jones (Y Golau: Dŵr, Hostage) fel Mici. Mae Dyfan Roberts hefyd yn dychwelyd fel Gronw, Lois Meleri Jones fel Antonia, Owen Arwyn fel Dafydd Aldo, Siw Hughes fel Meri Jên, Ali Yassine fel Cidw, Rhys ap Trefor fel Jiffy, a Siwan Morris fel Julia.    

Mae Matthew wedi mwynhau gweithio ar gyfres lle mae’r sgript wedi’i seilio ar nofel:  

“Roeddet ti’n gwybod bod y cymeriadau am weithio. Doeddet ti ddim yn gorfod gwneud y gwaith i neud iddyn nhw weithio, felly roedd hynny’n lyfli.” 

Dangoswyd cyfres gyntaf Dal y Mellt yn Hydref 2022 cyn iddi gael ei phrynu gan Netflix ym mis Ebrill 2023, gan greu hanes fel y ddrama Gymraeg gyntaf ar y gwasanaeth ffrydio. Mae’r ail gyfres eisoes cael ei phrynu gan Sbaen ac Awstralia, ac mae gwledydd erailll mewn trafodaethau I'w phrynu hefyd. 

“Mae hi’n gyfres wahanol iawn i bethau eraill ar y teledu”, meddai Matthew. “Does dim lot o ddramau heist ar y teledu. Ma hiwmor ynddo fe, fi’n credu gall unrhywun wylio fe ond mae ‘na rywbeth eitha unigryw o Gymru ambyti fe.”  

Mae’r gyfres gyntaf o Dal y Mellt ar gael i wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer ar hyn o bryd.   

Bydd bocset o’r ail gyfres i’w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer o 4 Ionawr.