
Bydd ffilm fer sydd wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol yn cael ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf y mis hwn.
Mae Teth, a gafodd ei chynhyrchu gan Beastly Media ar gyfer S4C, wedi teithio’r byd mewn amrywiol ddangosiadau a gwyliau.
Nawr, am y tro cyntaf, bydd yn cael ei darlledu ar deledu ar 8 Ionawr am 22.15, ac ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer o’r un dyddiad.
Mae’n dilyn stori Ioan a’i dad, sydd yn addasu i’w perthynas newydd fel tad a mab yn dilyn llawdriniaeth top Ioan.
Dyma’r ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei dangos yn India a Tseina, ac mae hi wedi ennill gwobrau gan gynnwys Ffilm LHDT Orau Gŵyl Ffilmiau Byrion California, Ffilm LHDT+ Orau Gŵyl Ffilmiau Byrion Canol Tref Dinas Efrog Newydd a Ffilm Fer Cwiar Orau yn Queer-Streifen ym Münster, Yr Almaen.
Ymhlith y gwyliau eraill lle mae’r ffilm wedi ei dangos, mae Gŵyl Ffilmiau Cwiar Beijing, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Oslo/Fusion a Gŵyl Ffilm Trawsryweddol San Francisco, ac mae’n parhau i greu sŵn ledled y byd.
Leo Drayton ysgrifennodd y ffilm, gyda Peter Darney yn cyfarwyddo.
Cafodd ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Newport Beach, Califfornia, a groesawodd 80,000 o bobl eleni.
Yn ogystal, aeth y ffilm i Frameline: Gŵyl Ffilm LHDTC+ Ryngwladol San Francisco, sef yr ŵyl ffilmiau cwiar fwyaf a hynaf yn y byd, gyda dros 60,000 yn bresennol yno.
Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf ar noson agoriadol Gŵyl Iris 2024, ac fe gafodd ei dewis ar gyfer gŵyl BFI Flare y llynedd, sef yr ŵyl ffilmiau cwiar fwyaf a hynaf yn Ewrop.
Dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C: “Ar ôl taith lwyddiannus o gwmpas rhai o wyliau ffilm LHDTC+ mwya’r byd, mae’n wych bod cynulleidfaoedd S4C yn cael mwynhau Teth am y tro cyntaf.
“Mae adrodd straeon pobl o bob cymuned yn allweddol ac yn profi’n wirioneddol bod S4C i bawb.”
Ychwanegodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae ehangu gwylio gyda’n cynnwys – a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd – yn un o amcanion S4C ac mae Teth yn enghraifft berffaith o gynnwys sydd wedi teithio, gan ennill bri ar draws y byd a rhoi llwyfan rhyngwladol i’r Gymraeg.”
Rhestr lawn o wyliau lle cafodd “Teth” ei dangos:
· Gwobr Iris Prize (noson agoriadol ac Iris ar Grwydr)
· BFI Flare
· Gŵyl Ffilm Cwiar Beijing
· Gŵyl Ffilm Ryngwladol Oslo/Fusion
· Gŵyl Ffilm Trawsryweddol San Francisco
· Expo Ffilm Cwiar Sardinia
· Out & Loud- Gŵyl Ffilm Cwiar Ryngwladol Pune
· Gŵyl Ffilm Queer North
· Out on Film- Gŵyl Ffilm LHDTC Atlanta
· Queer Wave: Gŵyl Ffilm LHDTCIA+ Cyprus
· Frameline: Gŵyl Ffilm LHDTC+ Ryngwladol San Francisco
· Gŵyl Ffilm Cwiar Outsouth
· Gŵyl Ffilm Newport Beach
· QUEER-Streifen Regensburg
· Gŵyl Ffilmiau Byrion Canol Tref Dinas Efrog Newydd
· Cinema Diverse: Gŵyl Ffilm LHDTC Palm Springs
· Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin
· Roze Filmdagen: Gŵyl Ffilm LHDTC+ Amsterdam
· Pink Screens: Gŵyl Ffilm Cwiar Brwsel
· Taiwan International Queer Film Festival
· Real Desires: Chennai International Queer Film Festival
· Cal Film Festival – California International Short Film Festival
· Pride Film Festival
· Way Out West Film Fest
· Q-Fest (UW-Eau Claire)
· Qu’ART Ottawa
Gallwch hefyd wylio Teth o 18.00 ar nos Iau 8 Ionawr ar YouTube S4C.