
29 Ionawr 2026
Mae rhaglen ddogfen newydd ar S4C yn dilyn adfywiad clwb pêl-droed hanesyddol Bangor, sydd wedi ei arwain gan y cefnogwyr a’r gwirfoddolwyr, gyda chymorth llysgennad diweddaraf y clwb, y dylanwadwr byd-eang Simon Squibb.
Bydd Ni ‘Di Bangor Aye! ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C Chwaraeon o ddydd Gwener 30 Ionawr.
Mae hanes pêl-droed yn ninas Bangor yn un cythryblus. Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor ym 1876 gan ei wneud yn un o’r clybiau pêl-droed hynaf yng Nghymru. Dros y degawdau, enillodd y tîm Gwpan Cymru wyth gwaith, Uwch Gynghrair Cymru tair gwaith a bu'n rhan o gystadlaethau yn Ewrop.
Yn 2021, cafodd y clwb ei wahardd o unrhyw weithgaredd pêl-droed oherwydd trafferthion ariannol difrifol. Roedd pryderon am ddyfodol hir-dymor y clwb eisoes wedi annog y cefnogwyr i weithredu ac yn 2019, sefydlodd Cymdeithas Cefnogwyr Dinas Bangor glwb newydd, CPD Dinas Bangor City 1876, er mwyn diogelu pêl-droed yn y ddinas.
Er i’r clwb ostwng i drydydd haen Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar ddiwedd y tymor diwethaf, roedd gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned fusnes leol yn parhau i fuddsoddi a gwella’r stadiwm, yr adnoddau a strwythur rheoli’r clwb.
Rhywun a ddaeth yn lysgennad i’r clwb cyn cychwyn y tymor newydd oedd yr entrepreneur a’r dylanwadwr Simon Squibb. Dechreuodd Simon ei fusnes cyntaf tra roedd o’n ddigartref yn 15 oed a fo yw sylfaenydd HelpBnk.com, platfform cymunedol lle mae entrepreneuriaid a phobl busnes yn cefnogi ei gilydd. Erbyn hyn, mae ganddo 20 miliwn o ddilynwyr ar draws Instagram, TikTok a Facebook.
Yn y rhaglen, dywedodd Simon:
“Pan o’n i yno yn y stadiwm, nes i deimlo rhywbeth.
“Dwi wedi buddsoddi mewn sawl busnes a dwi’n gallu dweud pan mae cwmni am wneud yn dda trwy egni’r tîm. Mae gennych chi rywbeth sbesial.”
Mae'r clwb yn cychwyn y tymor diweddaraf gyda chit newydd hanesyddol a sawl chwaraewr newydd. Yn eu plith, mae Dion Donohue sydd wedi chwarae i glybiau fel Academi Everton, Chesterfield, Portsmouth, Swindon a Chaernarfon. Hefyd yn dychwelyd i Fangor mae Jamie Reed a sgoriodd y gôl fuddugol i Ruthun a arweiniodd at Fangor yn cwympo i’r drydydd haen.
Ers dechrau'r tymor newydd, mae pethau i weld yn symud i’r cyfeiriad cywir i’r clwb.
Dywedodd Dion Donohue:
"Mae’n siwr mai dyma’r tro cyntaf mewn tair mlynedd dwi actually’n enjoio pêl-droed rŵan."
Mae'r rhaglen ddogfen yn cynnwys cyfraniadau gan gefnogwyr, cyn-hyfforddwr, staff a chwaraewyr - pob un yn rhannu’r un gôl: mynd â Bangor yn ôl i haen uchaf pêl-droed yng Nghymru, Uwch Gynghrair Cymru.
Gwyliwch y rhaglen ar dudalen YouTube S4C.
Cynhyrchir Ni 'Di Bangor Aye! gan gwmni TheGAS.uk i S4C.