Y Wasg

Y Wasg

“Dwi eisiau chwalu’r stigma ‘gor-rywiol’ sy’n cael ei gysylltu gyda poliamori” – rhaglen ddogfen S4C yn dilyn bywyd menyw sy’n rhannu ei chariad

24 Mawrth 2026

Bydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C yn dilyn bywyd menyw sy’n byw bywyd poliamorus ac yn ceisio herio’r rhagfarnau am y ffordd anghonfensiynol yma o fyw. 

Yn Cariad Heb Ffiniau: Poliamori a Fi, fydd ar  S4C ar 24 Mawrth am 21.00, mae’r camerâu’n dilyn Naomi Aldwyn-Allsworth dros gyfnod o flwyddyn wrth iddi fyw bywyd gyda mwy nag un partner ar yr un pryd - yn agored ac yn onest. 

Yn 30 oed mae Naomi yn gweithio fel arbenigwraig goroesi Academi Bear Grylls, yn dysgu pobl sut i oroesi mewn rhai o’r llefydd mwyaf heriol ar y blaned. Ond yn ei bywyd personol, mae’r heriau’n gallu bod yr un mor ddyrys.

“Dwi byth eisiau peintio bywyd poliamorus fel y ffordd berffaith i fyw,” meddai Naomi. “Ond dyna beth sy’n gweithio orau i fi.”  

Mae’r rhaglen yn dilyn ei pherthnasau amrywiol, gan gynnwys Chris, ei phartner hir-dymor sy’n dad i’w mab saith mlwydd oed.

Dros wyth mlynedd, mae eu perthynas wedi newid wrth i’r ddau benderfynu agor eu bywydau i bartneriaid eraill. 

Mae’r ddogfen yn dilyn datblygiad ei perthynas newydd gyda Matt, sy’n symud o Galiffornia i Lundain i fyw’n agosach at Naomi ac i brofi perthynas poliamorus am y tro cyntaf. 

Ar yr un pryd, mae Naomi hefyd mewn perthynas gyda chwpwl - Mollie (nid ei henw iawn) a Connor - ac yn ddiweddararach, mae partner arall wedi dod yn rhan o’i bywyd. 

“Poliamori i fi yw cael yr hawl i gael mwy nag un berthynas hir-dymor, nid jest ffling,” meddai hi.   

Mae’r rhaglen yn archwilio’r realiti tu ôl i’r ffordd o fyw - y llawenydd, ond hefyd yr ansicrwydd, cenfigen a’r cyfathrebu dwys sydd ei angen i gynnal perthnasau lluosog. 

“Mae Chris yn rhoi teimlad o gartref i fi a teimlo’n rili gyffyrddus …ond gall partner newydd ddod fewn ag elfen cwbl wahanol i hynny. Dydw i ddim yn edrych am bartner newydd i lenwi twll sy da fi mewn perthynas arall. 

“Ma perthnasau newydd yn dod mas a gwahanol aspects i bersonoliaeth fi, a ‘na beth fi’n lico.” 

Ond i gynnal y ffordd o fyw mae’n rhaid cael rheolau clir:  

“Cyn i unrhyw berson gwrdd â’n teulu ni, mae’n rhaid i mi gwrdd â nhw fwy nag unwaith,” meddai Chris. “Fi’n dechrau bod yn ffrindiau da’r person hwnnw.” 

Er nad yw’n teimlo cenfigen, mae Chris yn cydnabod bod y trefniant yn gallu bod yn gymhleth yn emosiynol: 

“Mae poliamori’n syml, ond mae emosiynau’n gymhleth…mae cyfathrebu’n hollbwysig” meddai. 

Mae Naomi yn gobeithio  bydd y rhaglen yn helpu “chwalu’r stigma ‘gor-rywiol’” sydd, meddai hi, yn aml yn cael ei gysylltu â pholiamori. 

“Dwi’n gobeithio bydd o’n caniatáu i bobl agor eu llygaid i wahanol ffyrdd o lywio perthnasau i rai teuluoedd,” meddai. 

“Os edrychwn ni’n fyd-eang, mae yna gymaint o leoedd lle nad yw monogamy  yn dal i gael ei ymarfer fel y norm, fel rhan o’u diwylliant, ond dydyn ni bron byth yn gweld hynny yma. 

“Mae’n eithaf trist ein bod ni wedi dod mor gul ein meddwl tuag at un ffordd o fyw yn unig. Ac os yw teulu’n edrych yn wahanol i’r model traddodiadol – mam, tad a phlant mewn un cartref – mae’n cael ei ystyried yn rhyfedd, neu’n llai sefydlog i’r plant.” 

Bydd Cariad Heb Ffiniau: Poliamori a Fi ar S4C nos Fawrth 24 Mawrth am 9pm, a bydd ar gael i wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag obsiwn o is-deitlau Saesneg.