Y Wasg

Y Wasg

Carrie Sauce yw enillydd Y Llais 2026

26 Ebrill 2026

 

Mae Carrie Sauce wedi ennill teitl ail gyfres Y Llais ar S4C.

 

Credir taw Carrie Sauce yw’r artist drag cyntaf i ennill The Voice ar draws holl diriogaethau’r gyfres ers y cychwyn yn 2010.

 

Cafodd yr Hyfforddwyr eu syfrdanu gan Oliver Martin, o Gaerdydd, sy’n perfformio fel Carrie Sauce, drwy gydol y gyfres cyn hawlio buddugoliaeth fel aelod o dîm Syr Bryn Terfel.

 

Fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, a fformat ITV Studios, The Voice yw Y Llais, sy'n cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.

 

Y tri arall a gyrhaeddodd rownd derfynol Y Llais 2026 oedd Chuts o Gricieth yn cynrychioli Tîm Yws Gwynedd, Cas Jones o Ben-y-bont Fawr yn rhan o dîm Bronwen Lewis a Lywis o Abertawe yn cynrychioli Tîm Aleighcia Scott.

 

Wrth ymateb i’r fuddugoliaeth, dywedodd Carrie Sauce:

 

“Mae’n teimlo’n anhygoel – byswn i byth wedi dychmygu hyn ond dyma’r sypreis gorau y gallwn i fod wedi gobeithio amdano. Dwi methu aros i weld beth sy’n dod nesaf.

 

“Mae fy nhaith wedi bod yn amrywiol! Jest drwy edrych ar y dewis o ganeuon – wedi mynd o Eurovision, i sioeau cerdd, i Cher, i rai caneuon gwreiddiol Cymraeg hyfryd – mae wedi bod yn anhygoel!”

 

Yn ystod y rownd derfynol, mi wnaeth y pedwar ganu deuawd gyda’u Hyfforddwyr, ble ymunodd Carrie Sauce â Syr Bryn Terfel am berfformiad cofiadwy o Amser Dweud Ffarwel (Time to Say Goodbye) (Con te partirò) gan Sarah Brightman ac Andrea Bocelli.

 

Roedd perfformio ochr yn ochr a Syr Bryn Terfel “fel gwireddu breuddwyd” i Carrie Sauce:

 

“Ar ôl ei wylio mewn sioeau dros ddegawd yn ôl – i feddwl y byddwn i un diwrnod ar y llwyfan yn perfformio gydag ef, yn dal ei ddwylo, yn edrych i’w lygaid – roedd rhaid i mi binsio fy hun! Roedd yn anhygoel, a nes i garu pob eiliad.”

 

Dywedodd Syr Bryn Terfel:

 

“Dwi uwch fy nigon! Roedd hi’n gyfres anhygoel a braidd dim rhwng y cantorion oedd yn y ffeinal. Mi wnaeth Carrie Sauce dyfu trwy gydol y gystadleuaeth – arbennig iawn.

 

“Doedd y pedwar ohonom ni [Hyfforddwyr] ddim yn troi’n aml iawn gyda’n gilydd ond yn sicr pan ddaeth Carrie Sauce ar y llwyfan, oeddem ni’n edrych ar ein gilydd a gwthio’r botwm yr un amser. A finnau’n cael fy nychryn mai tîm Syr Bryn gafodd ei ddewis!”

 

Fel enillydd Y Llais, mi fydd Carrie Sauce yn cael y cyfle i recordio cân wreiddiol gan un o gyfansoddwyr mwya’r byd, Amy Wadge, sydd wedi cydweithio gydag artistiaid fel Pink, Sam Ryder, ac Ed Sheeran.

 

Mae dros chwarter cystadleuwyr dwy gyfres gyntaf Y Llais yn ddysgwyr neu’n bobl sy’n ailgydio yn yr iaith. Mae Carrie Sauce, sydd yn wreiddiol o Wlâd yr Haf, hefyd yn ddysgwr balch ac wedi mwynhau’r profiad o ganu yn y Gymraeg:

 

“Mae’n hynod bwysig. Mae wir yn dod â ffocws i’r iaith Gymraeg ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn adfywio’r iaith. Mae’n rhan mor brydferth o’n diwylliant a dydyn ni methu fforddio i’w cholli hi.

 

“Dwi eisiau gallu parhau i berfformio, parhau i ddysgu Cymraeg, parhau i fwynhau’r wlad anhygoel yma. Dwi wedi byw yma ers 7 mlynedd ac yn gobeithio byddai’n byw yma am weddill fy oes.”

 

Mae holl benodau'r gyfres ar gael i'w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

 

Ac mae mwy o gynnwys cefn llwyfan i'w gweld ar gyfryngau cymdeithasol @YLlais.

 

Mae Y Llais yn cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.

 

Nodiadau i Olygyddion

 

Gyda mwy na 160 masnachfraint cyfunol yn fyd-eang, mae The Voice yn un o’r fformatau adloniant di-sgript mwyaf llwyddiannus ar draws y byd. Mae’r rhaglen wedi ei addasu mewn 77 o wledydd ac yn parhau i fod yn un o’r masnachfreintiau teledu rhyngwladol cryfaf yn y blynyddoedd diwethaf.