Y Wasg

Y Wasg

S4C i ddarlledu dwy gêm Barbariaid v Cymru yn ecsgliwsif

12 Mai 2026

 

Mi fydd S4C yn darlledu gemau dynion a menywod y Barbariaid yn erbyn Cymru yn fyw ac yn ecsgliwsif o Twickenham ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin 2026.

 

Bydd gêm y dynion yn cychwyn am 2.00pm a gêm y menywod i ddilyn am 5.00pm gyda’r ddwy gêm ar gael yn fyw ac ecsgliwsif ar draws holl blatfformau S4C.

 

Bydd sylwebaeth Gymraeg a Saesneg ar gael ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C Chwaraeon.

 

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno'r ddwy gêm ar S4C, gyda Lauren Salter yn gohebu. Gareth Charles fydd yn sylwebu ar gyfer gêm y dynion ynghyd â dadansoddi arbenigol gan Ken Owens ac Elinor Snowsill, a Siwan Lillicrap yn ymuno ar gyfer gêm y menywod. Mi fydd mwy o’r tîm ar sgrin yn cael eu cadarnhau maes o law.

 

Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C:

 

“Rydym yn falch iawn o sicrhau hawliau darlledu ecsgliwsif i'r ddwy gêm hyn, gan ddod â Chymru a'r Barbariaid gyda’i gilydd ar gyfer diwrnod arbennig o rygbi yn yr haf. Mi fydd y gemau hyn yn ddiwrnod gwych i Gymru, ac rydym yn falch bod darllediad S4C ar gael ar draws pob platfform.

 

“Mae'r cytundeb hwn yn tanlinellu ymrwymiad S4C i ddarparu chwaraeon byw yn ecsgliwsif i gynulleidfaoedd ledled Cymru a'r DU, yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac i arddangos y gorau o rygbi rhyngwladol ar lwyfan byd-eang.”

 

Dywedodd John Spencer, Llywydd Barbarian F.C.:

 

"Mae gan Barbarian F.C. a Chymru hanes hir, gyda chefnogwyr y ddau dîm yn mwynhau ysbryd a gwerthoedd y gêm.

 

"Mae’r ddwy gêm yma yn erbyn Cymru yn gyffrous iawn ac mae'r cyhoeddiad y bydd y gemau ar S4C, ar deledu am ddim ac yn cael eu darlledu gan ddarlledwr cenedlaethol, gyda phrofiad rygbi enfawr yn bwysig iawn.

 

"Rydym am arddangos y gorau o rygbi ac mae cael y gemau ar S4C yn caniatáu i ni gyrraedd cynulleidfa fawr ar gyfer diwrnod gwych o rygbi."

 

Dywedodd Tomos Grace, Prif Swyddog Masnachol Undeb Rygbi Cymru:

 

“Rydym wrth ein bodd y bydd S4C yn dod â darllediadau gemau’r Barbariaid v Cymru yn Twickenham i gefnogwyr ledled y wlad a thu hwnt.

 

“Mae’r gemau hyn bob tro’n ddathliad o ysbryd a thraddodiad rygbi, ac mae’n wych y bydd cefnogwyr yn gallu eu mwynhau am ddim, gyda darllediadau cynhwysfawr yn y Gymraeg wrth wraidd y cyfan, ynghyd â darpariaeth Saesneg, sy’n hynod bwysig i’r gêm yng Nghymru.

 

“Rydym yn edrych ymlaen at beth fydd sicr yn achlysur cofiadwy i rygbi Cymru.”

 

Bydd cyfle hefyd i gefnogwyr fynychu'r ddwy gêm yn Twickenham, sy'n cynnwys y steil a'r angerdd sy'n gysylltiedig â gemau'r Barbarians. Mae’r tocynnau a rhagor o wybodaeth ar gael drwy ticketmaster.co.uk a England Rugby.

 

Bydd y darllediadau’n cael eu cynhyrchu gan Whisper Cymru.

 

Nodiadau i Olygyddion

 

Mi fydd darllediad S4C ar gyfer gêm y dynion yn cychwyn am 1.30pm a gêm y menywod am 4.30pm.