
16 Medi 2020
Mae ffilmio eisoes wedi cychwyn ar gyfer cyfres newydd sy'n dilyn seren Love Island, Connagh Howard a'i dad, Wayne, ar daith unigryw drwy ynysoedd Cymru.
Bydd Cymru, Dad a Fi yn dangos y tad a'r mab wrth iddyn nhw grwydro'r ynysoedd, cilfachau a chreigiau ar hyd arfordir Cymru; o Sir Fôn a Phen Llŷn yn y gogledd, i lawr tuag at Sir Benfro ac arfordir de Cymru, cyn dychwelyd adref i Gaerdydd.
Mae ffilmio eisoes ar waith ar gyfer y gyfres S4C, sy'n cael ei chynhyrchu gan Gwmni Da, gyda Connagh a Wayne yn ymweld ag ynys fwyaf Cymru, Ynys Môn, a rhai o'r ynysoedd llai sydd yn ei hamgylchynu.
Yn y rhaglen hwyliog hon, mi fydd y ddau yn mynd ar daith o hunan ddarganfod, wrth iddynt gwrdd â phobl newydd ac ymweld â rhannau anghyfarwydd o Gymru. Fe gawn hefyd ddysgu mwy am hanes eu teulu ac am eu hetifeddiaeth o Gymru, Jamaica ac Iwerddon.
Connagh a'i dad, Wayne
Dywedodd Cynhyrchydd y Gyfres, Mali Parry-Jones: "Maewedi bod yn bleser i ddod i nabod Wayne a Connagh ar y daith yma. Gyda'u gwreiddiau teuluol yn Jamaica a phrofiad Connagh ar Love Island y llynedd, mae'n teimlo'n addas iawn fod y ddau yn ymweld ag ynysoedd ysblennydd Cymru gyda'i gilydd.
"Mae Wayne a Connagh wedi taflu eu hunain i mewn i'r gyfres hyd yma, yn gorfforol ac yn emosiynol, wrth iddyn nhw ddod i nabod Cymru ychydig yn well drwy gwrdd â grwpiau ac unigolion gwahanol ac ymweld â llefydd newydd. Maen nhw a'r criw wedi mwynhau'r profiad o fynd ar y môr ar wahanol gychod i ymweld â'r ynysoedd yma. Yn bersonol, mae'n rhaid i mi ddweud fod o wedi bod yn fraint i weithio ar y prosiect yma. Mae'r gyfres yn un wresog a phositif tu hwnt ac rydyn ni'n edrych ymlaen i'w rhannu gyda'r gwylwyr."
Bydd Cymru, Dad a Fi yn cael ei ddangos ar S4C ym mis Rhagfyr.
DIWEDD