Y Wasg

Y Wasg

Mae S4C yn annog Llywodraeth y DU i ddiogelu darlledu Cymraeg yn Adolygiad Siarter y BBC

10 Mawrth 2026

Mae S4C wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad Adolygiad Siarter y BBC, gan alw am ddiogelu ei safle unigryw o fewn tirwedd cyfryngau'r DU er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg.

Mae S4C yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU yn y Papur Gwyrdd, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, o “rôl hanfodol S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg annibynnol”, ynghyd â’i ymrwymiad i gyllid digonol a chynaliadwy ar gyfer y darlledwr cyfrwng Cymraeg.

Yn ei gyflwyniad, mae’r darlledwr yn rhybuddio y bydd penderfyniadau sy’n deillio o Adolygiad Siarter y BBC yn cael goblygiadau gwirioneddol i S4C. Mae’n nodi’r prif flaenoriaethau y mae’n rhaid eu hystyried i allu parhau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg unigryw, cefnogi economi greadigol Cymru, a sicrhau ffyniant y Gymraeg i genedlaethau presennol ac i’r dyfodol.

Mae’r darlledwr yn galw am sicrwydd cyllid tymor hir y tu hwnt i fis Mawrth 2028. Dywed fod ei gyllid angen cynyddu’n uwch na CPI er mwyn sicrhau gwasanaeth cyfrwng Cymraeg sydd nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu.

Dywed hefyd y dylai darpariaeth statudol o gynnwys y BBC i S4C gael ei chysylltu â chynnydd CPI er mwyn cynnal ei gwerth mewn termau real, diogelu gwerth a safon cynhyrchu, a chynnal y bartneriaeth.

Mae S4C hefyd yn gofyn i bartneriaeth S4C-BBC iPlayer gael ei hymestyn i mewn i’r cyfnod Siarter nesaf, gyda rhwymedigaeth Siarter ar y BBC i warantu amlygrwydd i gynnwys cyfrwng Cymraeg fel darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus graidd ar ei lwyfannau digidol, gan gynnwys yr iPlayer.

Mae S4C yn mynnu bod unrhyw ddiwygiadau i’r broses o bennu ffi’r drwydded yn diogelu cyllid S4C, ei hannibyniaeth, a’i gallu i gyfrannu at luosogrwydd a’r economi greadigol yn y DU. Mae hefyd yn gofyn i S4C gael ei gydnabod yn benodol o fewn cwmpas ffi’r drwydded fel rhan graidd o system cyfryngau cyhoeddus y DU.

Meddai Cadeirydd S4C, Delyth Evans:

“Am fwy na 40 mlynedd mae S4C wedi bod yn cysylltu cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt â’r Gymraeg. Rydym yn cynnal y sector creadigol Cymreig, yn datblygu talent, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n rhan o fywyd bob dydd.

“Mae unrhyw fygythiad i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus y DU yn fygythiad uniongyrchol i S4C ac i ddarlledu ieithoedd lleiafrifol. Rydym eisiau defnyddio’r cyfle a gynigir gan yr Adolygiad Siarter i sicrhau dyfodol cyfryngau Cymraeg.”

Dywed Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:

“Rydym yn byw mewn cyfnod o newid technolegol cyflym a newidiadau mewn arferion gwylio. Bob dydd, rydym yn cystadlu am amlygrwydd mewn amgylchedd cyfryngau prysur. Mae’n rhaid i S4C aros yn gynaliadwy, yn hawdd ei darganfod, ac yn ddylanwadol.

“Mae strategaeth Mwy na Sianel Deledu S4C yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaeth cyfrwng Cymraeg digidol-yn-gyntaf sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa ac sy’n ffynnu. Rhaid gweld ein cyllid fel buddsoddiad, nid cost, gan ein galluogi i symud ymlaen yn hyderus, buddsoddi mewn arloesi digidol, darparu cynnwys dylanwadol ar draws genres, a pharhau i wneud cyfraniad ystyrlon i economi greadigol Cymru.”

Nodiadau i Olygyddion a Darn Safonol (Boiler Plate)

Linc i’r ymateb llawn: https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/page/cyhoeddiadau

1. Prif Geisiadau S4C

Cyllid Cynaliadwy i S4C

  • Rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu sicrwydd cyllid tymor hir i S4C y tu hwnt i Fawrth 2028, gyda chyllid cyhoeddus yn codi yn unol â CPI+ er mwyn sicrhau gwasanaeth cyfrwng Cymraeg sy’n gallu nid yn unig goroesi ond ffynnu.
  • Ni ddylai ehangu gweithgarwch masnachol y BBC danseilio darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill megis S4C.
  • Rhaid i unrhyw ddiwygiadau i’r broses o bennu ffi’r drwydded ddiogelu cyllid S4C, ei hannibyniaeth, a’i gallu i gyfrannu at luosogrwydd a’r economi greadigol yn y DU.
  • Dylid cydnabod S4C yn benodol o fewn cwmpas ffi’r drwydded fel rhan graidd o system cyfryngau cyhoeddus y DU, gan gryfhau’r contract cymdeithasol gyda’i chynulleidfaoedd.

Diogelu Partneriaeth S4C-BBC ar gyfer y Dyfodol

  • O dan bartneriaeth S4C-BBC, dylai darpariaeth statudol y BBC i S4C gael ei mynegei yn ôl cynnydd CPI er mwyn cynnal ei gwerth mewn termau real, cadw gwerth cynhyrchu, ac i helpu cynnal y bartneriaeth.
  • Dylai Siarter y BBC wreiddio cydweithio creadigol teg a thryloyw ag eraill, gan gynnwys S4C ar gyd-gynyrchiadau a phrynu hawliau, er mwyn cryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg i’r gynulleidfa a chefnogi’r sector creadigol.
  • Dylai rhwymedigaethau partneriaeth yn y dyfodol ar y BBC sicrhau bod gwasanaethau technoleg a darlledu a ddarperir i S4C o dan gytundeb yn cael eu darparu yn ôl y safonau diwydiant uchaf, gyda chefnogaeth dechnegol briodol a sylw gweithredol digonol.
  • Dylid ymestyn partneriaeth S4C–BBC iPlayer i mewn i’r cyfnod Siarter nesaf, gyda rhwymedigaeth Siarter ar y BBC i warantu amlygrwydd i gynnwys cyfrwng Cymraeg fel darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus graidd ar ei lwyfannau digidol, o dan oruchwyliaeth Ofcom.
  • Dylai'r Siarter nesaf ffurfioli partneriaethau arloesi teg a strwythuredig, fel bod deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau newydd yn cryfhau gwasanaethau cyfrwng Cymraeg a’i seilwaith digidol.

Dibenion Cyhoeddus ar gyfer y Dyfodol

  • Rhaid datblygu unrhyw esblygiad o’r Dibenion Cyhoeddus mewn ymgynghoriad â S4C, eu gosod yn gadarn yn y cenedloedd a’r rhanbarthau, a chydnabod cyfraniad darlledu ieithoedd lleiafrifol.
  • Dylai Diben Cyhoeddus newydd sy’n seiliedig ar dwf wreiddio partneriaethau teg a buddiol i bawb, i gefnogi twf cynaliadwy, lluosogrwydd ac arloesi ledled y DU.

Gwybodaeth am S4C

Mae S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus a'r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Mae S4C yn dosbarthu ystod eang o raglenni gan gynnwys drama, rhaglenni dogfen, newyddion, cerddoriaeth, adloniant, chwaraeon byw a rhaglenni plant. Mae cynnwys ar-lein yn cynnwys ein brand HANSH unigryw gyda chynnwys wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc 16-34 oed. Mae S4C Clic – chwaraewr S4C a gwasanaeth ar alw yn darparu cynnwys, dal i fyny, deunydd archif a setiau bocsys unigryw. Mae holl gynnwys S4C hefyd ar gael ar alw drwy BBC iPlayer.