Y Wasg

Y Wasg

O Brifathro i Bedoffeil: Neil Foden wedi ‘rhwystro’ ymchwiliad i gyhuddiadau yn erbyn athro arall

27 Ionawr 2026

Roedd y cyn-brifathro a’r pedoffeil Neil Foden wedi “rhwystro” ymchwiliad i gyhuddiadau difrifol yn erbyn athro arall yn ei ysgol, yn ôl swyddog undeb.

Dywedodd Colin Adkins ei fod wedi derbyn cofnodion o gyfarfod strategol yn ddamweiniol a bod cynnwys y cofnodion wedi ei “ddychryn”.

Daw sylwadau Mr Adkins mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C, Foden: O Brifathro i Bedoffeil, sydd ar gael i’w wylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o 27 Ionawr.

“Roedd cyhuddiadau difrifol bod athro wedi cael perthynas gwbwl amhriodol honedig gyda phedwar o ddisgyblion, un oedd yn dyddio ‘nôl o leiaf dair blynedd,” meddai Mr Adkins.

“Yn amlwg, mae unrhyw berthynas rywiol rhwng athro a disgybl nid yn unig yn gwbl amhriodol, mae’n gam-driniaeth rhywiol.”

Yn ôl Mr Adkins, nid oedd y cyfarfod strategol wedi cymryd y camau priodol.

“Wrth i mi ganolbwyntio ar yr ystyriaethau a gafodd eu cyflwyno yn y cyfarfod, fe welais yn glir bod Foden wedi manipiwleiddio’r broses i rwystro’r cyhuddiadau hyn rhag cael eu hymchwilio’n annibynnol,” ychwanegodd Mr Adkins.

Nid oedd y corff llywodraethol yn ymwybodol o’r cyhuddiadau yn erbyn yr athro.

Mae Bryn Jones yn newyddiadurwr fu’n ymchwilio i’r cyhuddiadau.

Dywed Mr Jones bod cyhuddiad arall yn erbyn athro gwahanol ei fod wedi “cael sws efo disgybl ysgol” ar noson allan, er ei fod yn gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Daeth y newyddiadurwr ymchwiliadol i ddeall bod yr athro wedi cael ymddiswyddo gyda geirda ar ôl dod i gytundeb gyda Neil Foden y byddai ymchwiliad y llywodraethwyr yn dod i ben cyn ei gwblhau.

“O’dd o ddim yn gweld dim dyfodol iddo fo yn Friars [yr ysgol lle oedd Foden yn bennaeth] achos do’dd Neil Foden, o’dd o ddim yn meddwl, yn mynd i roi chwarae teg iddo fo,” meddai Mr Jones.

“Doedd o ddim isho bod yna, ac felly ar sail hynny nath o benderfynu ‘Reit, dwi am adael’.

“Y prif beth oedd yn dod allan oedd, boed o’n deud y gwir neu beidio, o’dd o ‘di gallu mynd hefo reference, heb i’r broses disgyblu orffen, so heb iddyn nhw edrych mewn iddo fo’n iawn.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i honiadau o gam-drin gan Neil Foden ac wedi arestio dau ddyn arall yn sgil yr ymchwiliad yn 2025.

Prif lun: Angen cynnwys cydnabyddiaeth i Andrew Price