
3 Hydref 2025
Mae S4C a TAC wedi cyhoeddi cynhadledd ar y cyd, ‘Dychmygu’r Dyfodol’, i osod cyfeiriad newydd ar gyfer darlledu a chreu cynnwys yn y Gymraeg.
Bydd y gynhadledd flynyddol yn digwydd ar 5-6 Tachwedd 2025 yng ngwesty’r Park Plaza, Caerdydd, yn ystod wythnos pen-blwydd S4C, ac yn gyfle i’r darlledwr, y sector gynhyrchu a’r ecosystem ehangach o weithwyr creadigol, rhai llawrydd a chwmnïau i ddod ynghyd i drafod dyfodol y diwydiant o safbwynt Cymru a’r Gymraeg.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i S4C gyhoeddi ei strategaeth bum mlynedd newydd, Mwy Na Sianel Deledu.
Bydd y gynhadledd yn trafod sut mae denu a gwasanaethu cynulleidfaoedd newydd, y Gymraeg ar blatfformau digidol, cynnig cyfleoedd yn y diwydiant i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli, a chydweithio i weld Cymru’n ffynnu.
Y bwriad yw cynnal digwyddiad blynyddol gan symud rhwng de a gogledd Cymru i gyrraedd pawb. Bydd y gynhadledd ddeuddydd yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC.
Mae'r digwyddiad hwn wedi derbyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:
“Mae’n eithriadol o bwysig bod S4C a TAC yn trafod ac yn cydweithio er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth gafaelgar i'n cynulleidfaoedd. Rwy’n awyddus i ni edrych tua’r dyfodol ac i feddwl yn flaengar er mwyn sicrhau bod darlledu yn yr iaith Gymraeg ar flaen y gad gyda thrawsnewid digidol.
“Mi fydd hi hefyd yn fraint dathlu pen-blwydd S4C yn flynyddol gyda’r holl gwmnïau cynhyrchu sydd yn ei gwneud hi’n bosib i ni fel darlledwr esblygu a dangos ein byd trwy’r Gymraeg.”
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Mae TAC yn edrych ymlaen at gael gwneud pethau yn wahanol eleni wrth i ni bartneru gyda S4C i drefnu deuddydd o weithgareddau ar gyfer y sector yng Nghymru.
"Bydd Cyfarfod Cyffredinol TAC yn gyfle i’r aelodau gael trafodaethau mewnol ar gyflwr ac anghenion y diwydiant yng Nghymru gan adeiladu ar y sgwrs ymhellach yn y gynhadledd ar y cyd gyda S4C.
"Mae TAC hefyd mewn partneriaeth gyda S4C yn edrych ymlaen at ddarparu sesiynau hyfforddiant a gwybodaeth i rymuso crewyr cynnwys Cymru.”