Y Wasg

Y Wasg

S4C yn derbyn pob enwebiad yng nghategori Rhaglen Blant BAFTA Cymru

2 Medi 2025

Dramâu S4C yn derbyn chwe enwebiad – yn cynnwys Drama Orau 

Mae S4C wedi derbyn 19 o enwebiadau ar draws ystod eang o genres yn rhestr fer gwobrau BAFTA Cymru 2025 a gyhoeddwyd ar ddydd Mawrth 2 Medi. 

Mae S4C wedi derbyn pob enwebiad yn y categori Rhaglen Blant, gyda’r rhaglenni Deian a Loli (Cwmni Da), Mabinogi-Ogi (Boom Cymru) a Pwysutpam? (Cwmni Da). Mae cyfres Y Llais (Boom Cymru), a oedd yn boblogaidd gyda phobl ifanc, wedi cael ei enwebu yn y categori Rhaglen Adloniant. Mae Llond Bol o Sbaen (Cwmni Da) a Sgwrs Dan y Lloer: Noel Thomas (Tinopolis) hefyd wedi cael eu henwebu yn y categori Rhaglen Adloniant. 

Mae pedwar enwebiad ar gyfer y gyfres ddrama, Cleddau (Blacklight TV), gan gynnwys un ar gyfer yr actores Elen Rhys (Categori Actores), y cynhyrchydd Mared Swain yn y categori (Torri Trwodd Cymru), i Dafydd Hunt (Golygu) ac yn y categori Sain. Mae’r ddrama Ar y Ffin (Severn Screen Ltd) hefyd wedi derbyn dau enwebiad am y Ddrama Orau ac enwebiad i Rhys Carter yn y categori Cyfarwyddwr-Ffuglen. 

Mae’r gyfres Marw Gyda Kris (Ffilmiau Twm Twm) wedi derbyn dau enwebiad – yn y categori Cyfres Ffeithiol ac enwebiad i Kristoffer Hughes yn y categori Cyflwynydd. Mae Bethan Rhys Roberts wedi cael ei henwebu am ei gwaith cyflwyno yn Etholiad 2024, ac mae Ar Brawf (Darlun) wedi derbyn enwebiad yn y categori Cyfres Ffeithiol hefyd. 

Mae dau enwebiad yn y categori Rhaglenni Newyddion / Materion Cyfoes: am Newyddion S4C – Neil Foden (BBC Cymru) ac Y Byd ar Bedwar – Huw Edwards (ITV). Mae enwebiad i Ffa Coffi Pawb! (Ie Ie Productions) yn y categori Golygu hefyd. 

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: 

“Mae’n deyrnged i dalent ac ymroddiad y sector fod cynifer o enwebiadau gan S4C ymhob genre. Hoffwn longyfarch y rheiny oll ar eu camp a dymuno’n dda iddynt. Mae safon yr enwebiadau oll yn dangos cryfder y sector yng Nghymru.” 

Mae modd gwylio holl raglenni S4C gafodd eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru ar S4C Clic. 

Bydd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2025 yn cael ei chynnal ar 5 Hydref yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.