21 Rhagfyr 2020
Bydd anrheg Nadolig arbennig i ffans yr opera sebon poblogaidd Pobol y Cwm eleni wrth iddynt danio'r teledu i fwynhau hynt a helynt trigolion Cwmderi dros yr ŵyl.
Ar ddechrau rhifynnau Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig bydd gwylwyr yn cael mwynhau fersiwn Nadoligaidd o gerddoriaeth agoriadol adnabyddus Pobol y Cwm gan neb llai na Band Pres Llareggub.
9 Rhagfyr 2020
Yn y bennod gyntaf arbennig hon o ail gyfres Curadur, mae'r drymiwr Kliph Scurlock, sydd wedi chwarae gyda Gruff Rhys, The Flaming Lips, Gwenno a llawer mwy, yn ein llywio trwy ei fordaith gerddorol wrth dalu teyrnged i'w arwr, yr athrylith Endaf Emlyn.
7 Rhagfyr 2020
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn anarferol i bob un ohonom, ac mae'n wir i ddweud bydd y Nadolig hwn yn wahanol iawn i sawl un. Bydd gan S4C amserlen lawn dop o raglenni Nadolig i'r teulu cyfan, ac mae hysbyseb Nadolig S4C eleni yn dathlu ysbryd y Nadolig ond yn nodi blwyddyn anodd i bawb.