Y Wasg

Y Wasg

Tagiau / Y Wasg / 2023

  • Channel 4, S4C a Little Wander yn cyhoeddi Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi newydd

    4 Rhagfyr 2023

    Mae cynllun datblygu artistiaid comedi newydd sbon yn cael ei lansio yng Nghymru felcydweithrediad rhwng Channel 4, S4C a Little Wander er mwyn chwilio am dalent newydd a'idatblygu. Mae'r tri sefydliad wedi gweithio mewn partneriaeth i greu cynllun newydd ar gyfertalentau comedi o Gymru (a'r rhai sydd wedi'i lleoli yng Nghymru), darparu cyfleoedd datblygugyrfa ac agor y drws i gomisiynau creadigol yn y dyfodol.

  • S4C a Media Cymru yn lansio rhaglen hyfforddi a chronfa ddatblygu i dargedu fformatau byd-eang

    21 Tachwedd 2023

    Mae S4C yn gweithio mewn partneriaeth â'r Consortiwm arloesi cyfryngau Media Cymru i gynnig rhaglen hyfforddi arbenigol am ddim ar greu, ariannu, pecynnu a gwerthu fformatau byd-eang a fydd yn apelio at wylwyr teledu ledled y byd.

  • Pencampwr Cwis Bob Dydd S4C yn ennill car am flwyddyn

    20 Tachwedd 2023

    Mae Michaela Carrington, o Grughywel, Powys, wedi ennill prif wobr Cwis Bob Dydd, sef y defnydd o gar am flwyddyn.

  • Ymateb S4C i araith y Brenin

    7 Tachwedd 2023

    Dywedodd llefarydd ar ran S4C:

    "Mae S4C yn croesawu'r bwriad sydd yn cael ei nodi fel rhan o Araith y Brenin, i gefnogi'r diwydiannau creadigol.

    "Bydd cyflwyno Mesur y Cyfryngau yn y tymor Seneddol yma yn cadarnhau sefyllfa S4C fel darparwr cynnwys Cymraeg aml-blatfform ledled y DU a thu hwnt.

    "Fe fydd y fframwaith newydd yn sicrhau bod ieithoedd brodorol, gan gynnwys Cymraeg, yn rhan o'r cylch gorchwyl newydd ar gyfer teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.

    "Bydd y mesur yn ymestyn y gyfraith sy'n ymwneud â'r cyfryngau i wylio teledu ar-lein, a sicrhau bod S4C Clic ar gael ar setiau teledu cysylltiedig ac yn amlwg ar setiau teledu yng Nghymru.

    "Fe fydd hyn yn ein galluogi ni i ddatblygu'n gwasanaethau ymhellach a rhoi cynnwys Cymraeg ar-alw ar y prif blatfformau ar draws y DU."


  • S4C Rhyngwladol yn Lansio Cronfa Cynnwys Newydd

    10 Hydref 2023

    S4C's International's inaugural Commercial Content Fund is up and running from today (Tuesday 10th October) and actively looking for projects and partners in Wales and Internationally.

    Mae Cronfa Cynnwys Masnachol gyntaf S4C Rhyngwladol yn weithredol o heddiw ymlaen (dydd Mawrth, 10 Hydref) ac yn chwilio am brosiectau a phartneriaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

  • S4C Digital Media Cyf yn penodi Laura Franses yn Gynghorydd i’r Gronfa Tŵf Masnachol

    28 Medi 2023

    Mae S4C Digital Media Cyf wedi penodi Laura Franses yn Gynghorydd i'r Gronfa Tŵf Masnachol.

  • Newyddion Ni yn dechrau ar S4C gyda wyneb newydd yn cyflwyno

    30 Awst 2023

    Bydd rhaglen newydd i blant a phobl ifanc ar S4C ddydd Llun 4 Medi – Newyddion Ni.

  • S4C yn dyblu’r gefnogaeth i bêl-droed y menywod yng Nghymru

    25 Awst 2023

    Mae S4C yn cynyddu ei ymrwymiad i bêl-droed menywod, gan fwy na dyblu y nifer o ddarllediadau byw eleni, ac am y tro cyntaf erioed, yn darlledu 3 cystadleuaeth ddomestig ac un cystadleuaeth ryngwladol pêl-droed menywod Cymru.


  • Gŵyl y Dyn Gwyrdd dim ond ar S4C

    23 Awst 2023

    Bydd S4C yn darlledu rhaglen uchafbwyntiau o Ŵyl y Dyn Gwyrdd am y tro cyntaf erioed.



  • Cwis Bob Dydd yn denu 10,000 o ddefnyddwyr

    17 Awst 2023

    Mae ap Cwis Bob Dydd wedi cyrraedd 10,000 o ddefnyddwyr ers iddo ddychwelyd yn ôl ym mis Mehefin eleni.


  • S4C a Theatr Genedlaethol Cymru i ffrydio cynyrchiadau a datblygu Y Dyn Nath Ddwyn y ’Dolig 2

    08 Awst 2023

    Bydd S4C a Theatr Genedlaethol Cymru yn datblygu Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig 2 fel rhan o bartneriaeth newydd.

  • Sianel carioci Cymraeg newydd yn cael ei lansio

    5 Awst 2023

    Mae sianel carioci Cymraeg newydd yn cael ei lansio ar safle YouTube Noson Lawen.

  • Cwpan Rygbi'r Byd Ffrainc 2023 ar S4C

    31 Gorffennaf, 2023

    Bydd pob gêm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C.

    Sarra Elgan, Jason Mohammad a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno'r darllediadau o'r twrnament.

    Y sylwebydd Gareth Charles fydd yn dod â holl gynnwrf y gemau i'r gwylwyr adre ac yn ymuno ag ef bydd y dadansoddwyr arbenigol Mike Phillips, Gwyn Jones, Siwan Lillicrap, Rhys Priestland, Dyddgu Hywel, Robin McBryde a Rhys Patchell.



  • Isdeitlau Cymraeg ar raglenni Newyddion S4C

    25 Gorffennaf

    Gall gwylwyr ddewis isdeitlau Cymraeg ar raglenni Newyddion S4C o fis Medi ymlaen.


  • Cynnydd yng ngwylwyr S4C gyda thwf yn y gynulleidfa ifanc

    12 Gorffennaf 2023

    Mae nifer gwylwyr S4C yng Nghymru bob wythnos wedi codi 8% yn uwch na'r llynedd, y ffigurau uchaf i'r darlledwr ers pum mlynedd.

    Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C ar gyfer 2022-23, mae'r gwasanaeth yn nodi twf hefyd yn nifer y gwylwyr rhwng 16-44 oed i'r lefel uchaf mewn deng mlynedd.


  • S4C yn partneru gyda Fubo a chwmni Ryan Reynolds Maximum Effort i lansio Welsh Wednesdays

    26 Mehefin 2023

    Mae S4C wedi arwyddo cytundeb masnachol gyda Ryan Reynolds. Bydd S4C yn darparu 6 awr yr wythnos o gynnwys Cymraeg wedi ei ddewis gan Ryan Reynolds ar gyfer sianel Maximum Effort, fydd yn cael ei ffrydio yn wythnosol ar 'Welsh Wednesdays'.

  • Tudur Owen am dynnu sylw at swyn enwau llefydd Cymraeg

    21 Mehefin 2023

    Mewn cyfres o eitemau i wefannau cymdeithasol S4C, mae'r comedïwr a'r cyflwynydd Tudur Owen yn rhybuddio y gall enwau lleoedd Cymraeg ddiflannu os nad ydyn nhw yn cael eu defnyddio.

  • S4C i ddarlledu gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru tan 2028

    15 Mehefin 2023

    Bydd S4C yn darlledu holl gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028 mewn cytundeb newydd mewn partneriaeth â Viaplay.

  • S4C yn penodi Manon Edwards Ahir fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata

    07 Mehefin 2023

    Mae S4C wedi cryfhau ei hadran Cyfathrebu a Marchnata mewnol, gan benodi Manon Edwards Ahir yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata i arwain tîm sy'n cynnwys y Pennaeth Marchnata – Rebecca Griffiths a benodwyd yn ddiweddar, a'r Arweinydd Cyfathrebu Gwyddno Dafydd.

  • Shane Williams ac Ieuan Evans ar daith i gartref Cwpan Rygbi’r Byd

    06 Mehefin 2023

    Shane Williams ac Ieuan Evans ar daith i gartref Cwpan Rygbi'r Byd

  • S4C yn rhoi llwyfan i’r Urdd

    06 Mehefin 2023

    Fe wnaeth wythnos lwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 weld cynnydd yn y ffigyrau gwylio gyda'r gynulleidfa oedd yn gwylio rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol S4C yn dyblu o gymharu â llynedd.

  • Sequins a Storm ar y gorwel

    24 Mai 2023

    Mwy Na Daffs a Taffs - Mae'r gyfres gan griw Hansh S4C yn ceisio chwalu'r ystrydebau am Gymru, gyda'r cyflwynydd Miriam Isaac yn dod â thri o selebs byd realiti y DU i Gymru am ddeuddydd - pwy? Brenhines y drag Blu Hydrangea; y gantores, model a brenhines Insta Tallia Storm; a'r cyflwynydd teledu a radio, Vick Hope.

  • Camu i Fyd o Freuddwydion: LEGO® DREAMZzz ar S4C

    16 Mai 2023

    Am y tro cyntaf erioed, mi fydd penodau'r gyfres newydd LEGO® DREAMZzz ar gael i'w gwylio yn Gymraeg, a hynny ar S4C.

  • S4C yn ymuno â Chronfa Deledu Di-Sgript Screenskills, gan atgyfnerthu ymrwymiad y gronfa i gefnogi hyfforddiant a datblygiad

    25 Ebrill 2023

    S4C yn ymuno â Chronfa Deledu Di-Sgript Screenskills, gan atgyfnerthu ymrwymiad y gronfa i gefnogi hyfforddiant a datblygiad



  • Tri seleb newydd yn ymgymryd â Her Tyfu Garddio a Mwy

    18 Ebrill 2023

    Y cogydd Chris 'Flamebaster' Roberts, y bardd a llenor Caryl Bryn, a'r sylwebydd pêl-droed Owain Tudur Jones yw'r selebs newydd sy'n barod i ymgymryd â Her Tyfu Garddio a Mwy eleni, yn dilyn llwyddiant y sialens ar gyfryngau cymdeithasol Garddio a Mwy y llynedd.


  • Hansh S4C yn ennill gwobr yn y New Voice Awards

    Mae Tisho Fforc?, un o raglenni Hansh, gwasanaeth ar-lein S4C wedi llwyddo i gipio gwobr yng ngwobrau New Voice Awards 2023 a gynhaliwyd yn Llundain neithiwr (nos Wener 6 Ebrill).

  • Hansh S4C yn ennill gwobr yn y New Voice Awards

    7 Ebrill 2023

    Mae Tisho Fforc?, un o raglenni Hansh, gwasanaeth ar-lein S4C wedi llwyddo i gipio gwobr yng ngwobrau New Voice Awards 2023 a gynhaliwyd yn Llundain neithiwr (nos Wener 6 Ebrill).

  • S4C yn cyhoeddi dwy ddogfen chwaraeon, yn chwifio’r fflag i Gymru

    27 Mawrth 2023

    Gan barhau â strategaeth S4C i gomisiynu cynnwys o safon uchel ar gyfer cynulleidfa fyd-eang, mae'r sianel wedi rhoi'r golau gwyrdd i ddwy ddogfen chwaraeon newydd.

  • FFIT Cymru – mae’r gyfres sy’n trawsnewid bywydau yn ôl

    27 Mawrth 2023

    Gyda 1 o bob 4 o boblogaeth Cymru dros eu pwysau, mae cymryd gofal o'n iechyd mor bwysig ag erioed. Ac ar ddechrau Ebrill, mi fydd y gyfres FFIT Cymru yn dychwelyd i rannu syniadau positif ac ysbrydoledig gyda'r genedl.

  • S4C yn rhoi teyrnged i Dafydd Hywel

    23 Mawrth 2023