Cyfres newydd gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy, cyn enillwyr Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn bwrw golwg dros y sîn greadigol ifanc yng Nghymru. Yn y bennod yma byddwn yn blasu gwinoedd Cymreig, dysgu am bensaerniaeth ac am brosiectau cymunedol yn Abertawe cyn treulio amser gyda'r comedïwr Leila Navabi.
Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar arlunio byw, Cartio ac yn cael gwers arwyddo Makaton.
Rhaid i Darren gydymffurfio â thag cyrffyw rhwng 7pm a 7am a phrofion cyffuriau ar hap er mwyn osgoi cael ei anfon yn ôl i'r carchar. Mae gan Chloe hanes gwael o ddod i'w hapwyntiadau ac mae hi mewn perygl o gael ei gyrru'r llys eto. Nerys a Jo ydy'r Swyddogion Gwasanaeth Prawf sy'n gorfod rheoli ymddygiad y ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n edrych ar fwthyn sydd wedi ei estynnu a'i adnewyddu gan y perchennog, cartref sy'n llawn dodrefn a thrugareddau retro ym Mhorthcawl, a thŷ Fictoraidd anhygoel ym Mhenarth sydd wedi ei drawsnewid gan y perchnogion.