Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

  • Cyhoeddi Tendr

    Hoffai S4C gyhoeddi mai partneriaeth rhwng cwmnioedd Darlun a Slam oedd yn llwyddiannus yn y tendr Digidol diweddar, a chwmni Whisper Cymru oedd yn llwyddiannus yn y tendr cynnwys Chwe Gwlad.

    Diolch i bawb a wnaeth ymgeisio.Rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi’r ymdrech a’r gwaith aeth i lunio’r ceisiadau ar gyfer y ddau dendr.

  • Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol

    Gwahoddir ceisiadau gan Gwmnïau i gynhyrchu arlwy o gynnwys Ffeithiol, gyda’r bwriad o ddarlledu o Haf 2026 ymlaen.

    Mae’r arlwy ffeithiol yn ganolog i amserlen y sianel ac mae’r tendr yma yn rhoi cyfle i gwmni unigol neu i gwmnïau dod at eu gilydd i gynnig pecyn o gynnwys uchelgeisiol a chreadigol

     

    Ceisiadau i’w derbyn erbyn: 12:00 canol dydd Llun 26 Ionawr 2026

     

    Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol (PDF)

     

    Yn dilyn derbyn cwestiynau ar gyfer Tendr Pecyn Ffeithiol, gweler y ddolen isod sy’n cynnwys rhestr o gwestiynau a’u hatebion: 

     

    Cwestiynau ac Atebion - Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol (PDF)

  • Galwad Agored – Byrion Comedi Digidol (10 munud)

    3 Hydref 2025

    Mae S4C wedi bod yn gartref i gomedi Cymreig ers degawdau ac rydym yn chwilio am y don nesaf o leisiau comedi i ddod â chwerthin i gartrefi ar draws y wlad.

    Hoffem dderbyn syniadau gwreiddiol ar gyfer peilot comedi 10 munud o hyd. Dyma gyfle i ni arbrofi gyda fformatau newydd a phrofi ymateb cynulleidfaoedd mewn ffordd gyflym a chreadigol. Gall eich syniad fod yn fonolog, ensemble, sitcom, ffug-ddogfen (mocumentarty) comedi tywyll dirdro (twisted) – neu ffurf wreiddiol.

  • S4C x TAC: Dychmygu’r Dyfodol ar 5-6 Tachwedd 2025

    Mae S4C a TAC yn falch o’ch gwahodd i Ddychmygu’r Dyfodol – cynhadledd flynyddol newydd ar y cyd i osod cyfeiriad ar gyfer cynhyrchu a chreu cynnwys Cymraeg. 

  • Galwad Agored – Dogfen Ffurf Hir Celfyddydol

    9 Hydref 2025

    Mae S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd ceisiadau gan gwmnïau cynhyrchu sydd â diddordeb mewn creu ffilm ddogfen ffurf hir am y celfyddydau yng Nghymru.

  • Tendr Pecyn Cynnwys Digidol

    16 Medi 2025

    Gwahoddir ceisiadau gan Gwmnïau i gynhyrchu pecyn o gynnwys digidol. Rydym yn galw am becyn o syniadau dewr a digidol eu natur sy’n adlewyrchu calon, hiwmor ac enaid Cymru, wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer cynulleidfa 25-44. Gyda’r bwriad o gyhoeddi ar ddechrau 2026.

    Linc i’r tendr yma: Tendr Pecyn Cynnwys Digidol

    Rhestr Cwestiynau ac Atebion

    Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau:  12:00 Canol dydd, Dydd Mercher 22 Hydref 2025

  • Dyddiadau Cymeradwyo a Chyfleu

    15 Medi 2025

    Nodyn i'ch atgoffa o bwysigrwydd y dyddiadau cymeradwyo a chyfleu ar gyfer cynnwys i S4C sydd wedi cytuno a nodi yn eich trwydded/cytundeb.
    Mae'r dyddiadau hyn yn cael eu defnyddio gan system ddarlledu S4C, ac yn cael eu bwydo i wahanol adrannau er mwyn trefnu amserlenni gwaith mewnol, paratoi deunydd hyrwyddo a marchnata, ac ar gyfer cwmnïoedd allanol sy’n darparu gwasanaethau mynediad ar gyfer ein cynnwys. Mae’n bwysig felly os oes unrhyw newidiadau i ddyddiadau cyfleu, eich bod yn ein hysbysu cyn gynted â bod modd er mwyn addasu’r llifoedd gwaith a sicrhau bod y staff perthnasol ar gael i ymateb a chyflawni’r gwaith mewn pryd.

  • Galwad am syniadau ar gyfer cynllun datblygu gan Nesta

    Grantiau o £10,000 ar gael:

    https://www.nesta.org.uk/project-updates/greener-homes-call-for-ideas/

     

    Syniadau posib yn cynnwys:

    • Cynnwys storïol ar gyfer platfform neu ddylanwadwr penodol
    • Sioe adloniant ffeithiol
    • Eitem newydd ar gyfer rhaglen defnyddwyr sydd eisoes yn bodoli
    • Syniad dogfen ffurf fer sy’n arloesi ar blatfformau digidol
    • Cynnwys trochiadol neu sioe DIY

  • Datganiad Cyflenwyr: Aflonyddu Rhywiol

    Hoffwn gymryd y cyfle i bwysleisio ein hymrwymiad i greu a chynnal amgylchedd gwaith diogel, parchus a chynhwysol i bawb sydd yn gweithio i - ac ar ran S4C.
     
    Mae’r ddeddfwriaeth newydd sydd wedi dod i rym yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar yn cryfhau’r amddiffyniadau yn erbyn aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cynyddu dyletswydd cyflogwyr i gymryd camau rhagweithiol i atal aflonyddu rhywiol - rhywbeth yr ydym ni’n gwbl ymrwymedig iddo ac yn ei gymryd o ddifrif.

    Hoffwn hefyd eich atgoffa o’ch dyletswydd wrth weithio i S4C, neu wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer neu ar ran S4C.
      
    Hoffwn felly rannu ein Datganiad Cyflenwyr: Aflonyddu Rhywiol, sydd hefyd ar gael ar ein gwefan. Mae’r polisi’n nodi’n glir beth yw ymddygiad annerbyniol a sut rydym yn cefnogi unrhyw un sy’n profi neu’n tystio i unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.

  • Galwad am syniadau Hansh

    Mae S4C yn chwilio am syniadau newydd am gynnwys i gyhoeddi ar Hansh. Rydym eisiau cynnwys fydd yn ysbrydoli, rhyfeddu, codi gwen. Cyfresi mentrus gyfoes ffurf ganolig i gyhoeddi ar YouTube Hansh.

     

    Rydym yn chwilio am gyfresi:

     

    • Adloniant
    • Teithio
    • Arbrawf Cymdeithasol
    • Cariad (Dating)
    • Materion Cyfoes
    • Ffilmiau Byr Sengl – Dogfen/Sgript

     

    Hyd: 10-12 munud y bennod. 4-8 pennod.

     

    Rydym yn awyddus i gomisiynu fformatau cryf a fydd yn medru dychwelyd i gyfoethoci arlyw YouTube Hansh. Mi fydd y cynnwys o bosib yn dilyn patrymau cyhoeddi gwahanol i’r arfer er mwyn creu patrymau cyhoeddi sy’n gweddi’r platfform. Rydym yn awyddus i gael syniadau am bobl ifanc eithriadol o Gymru.

  • Cylchlythyr Sector S4C

    Newyddion Cynhyrchu

    Cylchlythyr Sector S4C

  • Chwilio am gyfleoedd castio?

    Am gymryd rhan neu serennu yng nghynnwys newydd S4C?