Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Galwad Agored – Byrion Comedi Digidol (10 munud)

3 Hydref 2025

Mae S4C wedi bod yn gartref i gomedi Cymreig ers degawdau ac rydym yn chwilio am y don nesaf o leisiau comedi i ddod â chwerthin i gartrefi ar draws y wlad.

Hoffem dderbyn syniadau gwreiddiol ar gyfer peilot comedi 10 munud o hyd. Dyma gyfle i ni arbrofi gyda fformatau newydd a phrofi ymateb cynulleidfaoedd mewn ffordd gyflym a chreadigol. Gall eich syniad fod yn fonolog, ensemble, sitcom, ffug-ddogfen (mocumentarty) comedi tywyll dirdro (twisted) – neu ffurf wreiddiol.

Byddwn yn ystyried comisiynu hyd at 10 syniad unigol /gwahanol, i’w datblygu a’u cyhoeddi fel rhan o strand comedi digidol newydd gan S4C. Y bwriad yw cyhoeddi’r  cynnwys yma’n ddigidol yn unig.

Er mai galwad am beilot 10 munud yw gofyn yr alwad, dylia’r driniaeth amlinellu sut/os gelli’r datblygu’r syniad peilot yn gyfres a beth fyddai diwyg y gyfres arfaethedig.

Bydd angen i bob cynnig fod ar ffurf 'deck slide' dim mwy na 5 tudalen gan gynnwys:

  • Teitl
  • Dadansoddiad o’r syniad
  • Enghraifft o waith sgript - hyd at 1 tudalen.
  • Cynllun Castio
  • Syniad o’r gynulleidfa
  • Syniad pendant o naws ac arddull gwaith
  • Ychydig o wybodaeth am y tîm creadigol allweddol a'ch profiad
  • Wrth ymgeisio dylid ystyried oblygiadau cytundebol ar y cynnwys fydd yn byw ar YouTube, Clic, iPlayer

 

Cyllideb

Hyd at £2,000 y funud yn ddibynnol ar y cynnwys

 

Sut i gyflwyno syniad?

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniad at syniad@s4c.cymru erbyn 12:00 dydd Gwener 14 Tachwedd. Gall pob cwmni gyflwyno hyd at 3 syniad -  ond bydd angen i chi eu hanfon ar wahân. Byddwn yn cadarnhau derbyn y syniad drwy e-bost.

 Mae gwefan gynhyrchu S4C http://www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu os oes cwestiwn am y prosesau cynhyrchu gennych.

Mae'n fwriad gan y comisiynwyr Beth Angell a Guto Rhun ddewis rhestr fer erbyn  dechrau Rhagfyr - cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus bydd angen trafod y gyllideb a’r manylion cytundebol gyda’r adran Materion Busnes, ac i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C – Cwmwl. Ni ddylid gwneud hyn cyn cael gwahoddiad i wneud hynny.

Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law.