Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Galwad am syniadau Hansh

Mae S4C yn chwilio am syniadau newydd am gynnwys i gyhoeddi ar Hansh. Rydym eisiau cynnwys bydd yn ysbrydoli, rhyfeddu a chodi gwen. Cyfresi ffurf ganolig mentrus a chyfoes, i gyhoeddi ar YouTube Hansh

Rydym yn chwilio am syniadau creadigol ar gyfer cyfresi o fideos cylchol (looping) ar gyfer YouTube, wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd ifanc.

Dylai’r cynnwys ganolbwyntio ar greu awyrgylch – er enghraifft:

  • Tirweddau breuddwydiol (dreamscapes)
  • Fideos astudio a chanolbwyntio
  • Cerddoriaeth gefndirol ysgafn
  • Y teimlad o “gerddoriaeth yn chwarae mewn ystafell arall”
  • Teimlad o gynnwys Cymreig sy’n wahanol i beth sydd ar gael yn barod
  • Cynnwys Hansh, sut i blethu gwynebau Hansh ac ymdeimlad o ledaenu brand

Dylai’r syniadau greu profiad ymdrochol (immersive), tawel a chysurus, sy’n helpu pobl i ymlacio, astudio neu ganolbwyntio dros gyfnod hir.

Rydym yn agored i syniadau gweledol a chlywedol unigryw sy’n apelio at gynulleidfaoedd digidol ifanc, ac sy’n addas ar gyfer YouTube.

Rydym yn awyddus i glywed syniadau ac yn agored i drafod hydoedd, ond disgwylir oleia pedwar fideo i gael eu cynnwys yn rhan o’r pecyn.

Bydd angen i bob pitch fod ar ffurf 'deck slide' gan gynnwys:

  • Teitl cryf a chlir ( Dim teitl, dim comisiwn)
  • Strapline un llinell
  • Syniad pendant o naws ac arddull. Pwy yw eich dylanwadau? Rhowch enghreifftiau a delweddau / fideo / moodboard
  • Ychydig o wybodaeth am y tim creadigol allweddol a'ch profiad dogfen / dolenni i waith blaenorol
  • Wrth ymgeisio dylid ystyried oblygiadau cytundebol ar y cynnwys fydd yn byw yn ddigyfyngiad ar YouTube

Cyllideb

Yn ddibynnol ar y cynnwys, rydym yn edrych ar gomisiynu pedwar fideo, pum munud yr un o gynnwys gwreiddiol, bydd yn cael eu chwarae ar lwp i greu pedwar fideo awr o hyd. Gwerth y pecyn hyd at £30,000.

Sut i gyflwyno syniad?

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniad at syniad@s4c.cymru erbyn 12:00 ar y 15/06/26. Byddwn yn cadarnhau derbyn y syniad drwy ebost.

Mae gwefan gynhyrchu S4C yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu, os oes cwestiwn am y broses gynhyrchu gennych.

Mae'n fwriad gan Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc ddewis rhestr fer erbyn diwedd Mehefin. Cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus bydd angen i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C – Cwmwl. Ni ddylid gwneud hyn cyn cael y gwahoddiad.

Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law.

Galwad am syniadau Hansh (PDF)