
Mae S4C wedi bod yn gartref i gomedi Gymreig ers degawdau ac rydym yn chwilio eto am y don nesaf o leisiau comedi i ddod â’r chwerthin yn ôl at galon S4C.
Hoffem dderbyn syniadau gwreiddiol ar gyfer peilotau comedi 10 munud o hyd. Dyma gyfle i ni arbrofi gyda fformatau newydd a phrofi ymateb cynulleidfaoedd mewn ffordd gyflym a chreadigol. Byddwn yn croesawu unrhyw fformat gomedi nid sgriptiau sitcom yn unig.
Mi fyddwn yn ystyried comisiynu hyd at 10 syniad unigol, i’w datblygu a’u cyhoeddi fel rhan o strand comedi digidol S4C. Mi fydd y cynnwys yma’n cael ei gyhoeddi yn ddigidol yn unig.
Rhaid i’r syniadau llwyddiannus fod wedi eu cynhyrchu a’u cyfleu cyn diwedd Chwefror 2027.
Bydd angen i bob pitch fod ar ffurf 'deck slide' gan gynnwys:
Hyd at £20,000 y prosiect.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniad at syniad@s4c.cymru erbyn 12:00 Awst 31ain. Gallwch gyflwyno mwy nag un syniad, ond bydd angen i chi eu cyfleu ar wahân. Byddwn yn cadarnhau derbyn y syniad drwy ebost.
Mae gwefan gynhyrchu S4C yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu os oes cwestiwn am y prosesau cynhyrchu gennych.
Mae'n fwriad gan Beth Angell a Guto Rhun ddewis rhestr fer ganol Medi - cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus bydd angen i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C – Cwmwl. Ni ddylid gwneud hyn cyn cael y gwahoddiad.
Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion. Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law.