Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Hansh: Galwad am Syniadau - Cyfres Realiti 5 x 20’ Cordia

Yn dilyn llwyddiant Tanwen & Ollie, mae S4C yn chwilio am gwmni cynhyrchu i greu cyfres realiti newydd 5 x 20’ gyda Cordia, y band o Ogledd Cymru.

Bydd y cynnwys ar gyfer digidol yn gyntaf ac yn eistedd ar blatfformau digidol S4C.

Mae Cordia wedi cytuno i roi mynediad unigryw i S4C i’w bywydau dros haf 2027. Does dim angen i gwmnïau gysylltu â’r band yn uniongyrchol – rydyn ni’n chwilio am y syniad a’r tîm creadigol gorau i wneud y mwyaf o’r mynediad sydd eisoes gennym.

Bydd y cynigion gorau yn cael eu gwahodd i gyflwyno pitsh byw yng nghynhadledd TAC/S4C yn Llandudno ar y 5ed o Dachwedd 2026. 

Pam Cordia? Pam nawr?

Mae stori Cordia yn mynd yn ôl dros ddegawd. Yn ffrindiau ers dyddiau ysgol ar Ynys Môn, dechreuodd Ffion Wynn, Ffion Elin a Manon berfformio gyda’i gilydd pan oedden nhw’n ifanc. Daeth Brwydr y Bandiau a Chân i Gymru, cyn i fywyd fynd â’r tair i gyfeiriadau gwahanol.

Ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf, ADFYW, a haf prysur o gigs, mae 2027 yn addo bod yn flwyddyn fawr arall. Byddan nhw’n ysgrifennu a recordio ail albwm gyda Côsh, yn perfformio dros yr haf ac yn penderfynu beth ddaw nesaf i Cordia.

Ond mae’r gyfres yma lawn cymaint am eu bywydau oddi ar y llwyfan.

Mae Ffion Wynn yn cydbwyso’r band â gyrfa a pherthynas ac yn paratoi i briodi ddiwedd yr haf.

Mae Manon yn fam i ddau o blant bach, gyda’i gŵr yn treulio cyfnodau yn gweithio oddi cartref.

Mae Ffion Elin wedi symud i Gaernarfon yn ddiweddar ac yn dweud bod dod yn ôl at Cordia wedi llenwi bwlch oedd wedi bod yn ei bywyd ers blynyddoedd.

O’u cwmpas mae gweddill y band, partneriaid, plant, rhieni a chriw clos o ffrindiau, byd ehangach sydd â’r potensial i ddod yn rhan bwysig o’r gyfres.

Mae’r band yn mynd i un cyfeiriad. Mae eu bywydau’n mynd i sawl cyfeiriad arall.

Dyna’r tensiwn sydd o ddiddordeb i ni.

Y gyfres

Dydyn ni ddim eisiau rhaglen gerddoriaeth draddodiadol na phroffil pum pennod o fand.

Rydyn ni eisiau cyfres realiti cynnes, doniol ac egnïol.

Bydd gigs Cordia a’r gwaith ar yr albwm newydd yn rhoi asgwrn cefn naturiol i’r haf, ond rydyn ni eisiau mynd ymhellach na hynny.

Adref. Yn y stiwdio. Ar y ffordd i gigs. Yn y car. Gyda’r plant. Gyda’r partneriaid. Ar noson allan. Tu ôl i’r llwyfan. Y bore wedyn…

Mae’r tair wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd. Erbyn hyn mae ganddyn nhw gyfrifoldebau, perthnasau ac uchelgeisiau gwahanol iawn.

Sut mae gwneud i fand weithio pan mae bywyd go iawn yn mynd yn ei flaen ar yr un pryd?

A beth sy’n digwydd i gyfeillgarwch pan mae’r band yn dechrau mynd o ddifri?

Haf 2027

Mae nifer o straeon naturiol eisoes ar y gorwel:

Ail albwm, sesiwn luniau, haf o gigs, hen do Ffion Wynn ym mis Mehefin a’i phriodas ddiwedd Awst.

Rydyn ni eisiau i gynhyrchwyr feddwl sut y gall y digwyddiadau yma roi momentwm i’r gyfres a pha straeon eraill all ddatblygu o’u cwmpas.

Erbyn diwedd y pum pennod, dylai’r gynulleidfa deimlo eu bod nhw wedi treulio haf gyda Cordia ac wedi dod i adnabod y bobl tu ôl i’r band.

Dwysáu’r realiti

Mae angen elfen glir o realiti wedi’i ddwysáu.

Dydy hynny ddim yn golygu creu drama ffug. Mae’n golygu meddwl am sefyllfaoedd sy’n rhoi cyfle i’r personoliaethau, y cyfeillgarwch a’r gwahaniaethau rhwng y tair ddod i’r amlwg.

  • Beth allwn ni ei roi ar y calendr?
  • Ble allwn ni fynd â nhw?
  • Beth all eu rhoi nhw allan o’u cynefin?
  • Beth fydd yn ddoniol, yn annisgwyl neu’n anghyfforddus?
  • A beth allwn ni ei weld yn y gyfres na fydd Cordia yn ei rannu ar eu cyfryngau cymdeithasol eu hunain?

Rydyn ni eisiau i’r cwmnïau sy’n cyflwyno i ddod â syniadau penodol i ni. Ydy hyn yn golygu cymysgedd o elfennau ac arddull, ydyn ni mewn mockumentary, cyfres sgript, cyfres di sgript? Mae’n gyfle i ni gael hwyl.

Tôn

Dylai’r gyfres fod yn hwyl, agos, gonest ac yn llawn egni.

Mae’r berthynas rhwng y tair wrth ei chalon, y jôcs, yr hen straeon, y tensiynau, y teuluoedd a’r holl bethau bach sy’n dod o adnabod rhywun ers blynyddoedd.

Rydyn ni eisiau cyfres sydd yn rhoi rhywbeth newydd i gefnogwyr Cordia, ond sydd yr un mor ddifyr i rywun sydd erioed wedi clywed am y band.

Cordia sydd yn ein cael ni drwy’r drws.

Y cymeriadau a’r berthynas rhyngddyn nhw sy’n gwneud i ni aros.

Beth rydyn ni eisiau yn y cynnig

Does dim angen cynllun manwl o bob pennod ar hyn o bryd.

Rydyn ni eisiau gwybod:

  • Beth yw eich syniad chi ar gyfer Cordia fel cyfres realiti?
  • Beth fydd yn gyrru’r 5 x 20’?
  • Sut fyddwch chi’n defnyddio haf 2027 i roi siâp i’r gyfres?
  • Sut fyddwn ni’n dod i adnabod y tair a’r bobl o’u cwmpas?
  • Pa syniadau sydd gennych chi ar gyfer realiti wedi’i ddwysáu?
  • Sut fydd y gyfres yn edrych ac yn teimlo?
  • Pam mai eich tîm chi yw’r un iawn i gael y gorau o’r mynediad yma?
  • Pam fydd cynulleidfa sydd ddim yn adnabod Cordia eisoes eisiau gwylio’r bennod nesaf?

Mae’r mynediad yno. Mae’r cymeriadau yno. Mae haf mawr o’u blaenau.
Rydyn ni’n chwilio am y syniad fydd yn troi hynny’n gyfres realiti wych.

Cyllideb

Hyd at £160,000 am y gyfres.
Nid oes angen cynnig cyllideb 36 atodlen ar y pwynt hwn ond dylid cadw mewn cof costau clirio cerddoriaeth ar gyfer DU yn unig.

Sut i gyflwyno syniad

Bydd angen i bob pitch fod ar ffurf ‘deck slide’gan gynnwys:

  • Teitl cryf a chlir
  • Strapline un llinell
  • Esboniad clir o pam Hansh, pam nawr, pwy mae’n apelio atynt a pham ei fod yn berthnasol i’r gynulleidfa yna?
  • Awgrym o luniau (thumbnails)
  • Pecyn 360 o gynnwys
  • Ychydig o wybodaeth am y tîm creadigol allweddol

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniad at syniad@s4c.cymru erbyn 12.00, 22 Hydref, 2026.
Dylid cyflwyno’r ceisiadau ar ffurf PDF. Byddwn yn cadarnhau derbyn y syniad drwy e-bost. Mae gwefan gynhyrchu S4C yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu os oes cwestiwn am y prosesau cynhyrchu gennych. 

Mi fydd Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc yn dod i benderfyniad ar restr fer ar 28 Hydref ac mi fydd y ceisiadau llwyddiannus yn cael gwahoddiad i ddod i gyflwyno eich cais ger bron panel gan gynnwys y band yn ystod cynhadledd flynyddol TAC/S4C yn Llandudno ar y 5 Tachwedd, 2026. Mi fyddwn yn hysbysu’r cwmni llwyddiannus yn fuan ar ôl y gynhadledd. 

Cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus bydd angen i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C Cwmwl. Ni ddylid wneud hyn cyn cael y gwahoddiad.