Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Cynhadledd Adlewyrchu Cymru S4C x TAC 2026

Mae S4C a TAC yn falch o’ch gwahodd i’n cynhadledd flynyddol sy’n dod â’r diwydiant ynghyd i drafod a llunio dyfodol cynhyrchu a chreu cynnwys Cymraeg. 

Dyddiad: 4-5 Tachwedd 2026

Lleoliad: Gwesty St George’s, Llandudno 

Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn bellach wedi cau.

Darllen mwy.

Amserlen

Dydd Mercher, 4 Tachwedd

  • Bore Mercher: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC
  • 12.45-13.15: Cyrraedd a chofrestru
  • 13.15-14.15: Cracio’r Algorithm
    Beth sydd ei angen i sefyll allan a chyrraedd cynulleidfaoedd mewn byd sy’n cael ei lywio gan algorithmau? O newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth i adloniant a chrewyr cynnwys digidol, bydd ein panel yn rhannu profiadau, mewnwelediadau ac awgrymiadau ymarferol ar sut i greu cynnwys digidol sy’n denu sylw, yn ennyn diddordeb ac yn gwneud argraff. 
    Noddwyd y sesiwn gan Cynyrchiadau Mojo.
  • 14.15-15.00: Geraint Evans mewn sgwrs gyda Mairi Brewis Pennaeth Partneriaethau YouTube
    Beth allwn ni ei ddysgu gan un o blatfformau mwyaf y byd? Bydd Geraint Evans yn sgwrsio â Mairi Brewis am gystadleuaeth, cydweithio a’r ras i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Beth all YouTube ei gynnig i ddarlledwyr, cynhyrchwyr a chrewyr cynnwys – a beth all y diwydiant teledu ei gynnig yn ôl?  
    Noddwyd y sesiwn gan Boom Cymru.
  • 15.00-15.30: Egwyl
  • 15.30-16.15: Llunio Strategaeth Ddiwylliant Cymru: Dweud Eich Dweud
    Cymru Greadigol. Mae eich llais yn bwysig. Mae Cymru Greadigol eisiau clywed gan y diwydiant wrth ddatblygu Strategaeth Ddiwylliant newydd Cymru. Rhannwch eich profiadau, safbwyntiau a blaenoriaethau i helpu i lunio dyfodol diwylliant yng Nghymru.
  • 16.15-17.00: Fforwm Pitsio Realiti 
    Her pitsio fyw! Bydd cwmnïau cynhyrchu sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cystadlu am y cyfle i greu cyfres realiti newydd ar gyfer platfformau ffrydio S4C, yn dilyn band Cordia o ogledd Cymru. Cyfle i ddathlu syniadau ffres, uchelgais greadigol a chyfleoedd newydd, gyda'r cwmni buddugol yn cael ei gyhoeddi ar yr ail ddiwrnod. Nodwch: Mae'r Fforwm Pitsio Realiti wedi symud o'r 5ed i'r 4ydd o Dachwedd. Bydd y cwmni buddugol yn cael ei gyhoeddi ar yr ail ddiwrnod, 5 Tachwedd.
  • 19.30-21.00: Digwyddiad Rhyngweithio 
    Dylan’s Llandudno
  • Sesiynau Ychwanegol
    15.30-16.30: PRS 1-2-1 (Ystafell Menai Suite) 

Dydd Iau, 5 Tachwedd

  • 09.00-09.30: Cyrraedd a chofrestru
  • 09.30-10.00: Croeso - Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C 
    Bydd Geraint Evans yn agor ail ddiwrnod y gynhadledd drwy lansio Strategaeth Amrywiaeth newydd S4C, gan amlinellu’r uchelgais i adlewyrchu Cymru gyfan, chreu mwy o gyfleoedd i leisiau a thalent newydd, a chydweithio i feithrin sector creadigol ffyniannus a chynhwysol.
  • 10.00-10.55: Cyfarfod Sector Cynnwys S4C 
    Dan arweiniad Llion Iwan, bydd y sesiwn yn cynnwys diweddariadau gan gomisiynwyr o bob adran ar eu blaenoriaethau diweddaraf, eu cynlluniau creadigol a’r cyfleoedd i’r diwydiant dros y misoedd nesaf.
  • 10.55-11.10: Egwyl
  • 11.10-11.50: Cyfarfod Sector Cynnwys S4C
  • 11.50-12.50: Adlewyrchu Dyfodol y Sector
    Beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru? Wrth i’r diwydiant barhau i esblygu, bydd ein panel yn trafod yr heriau, y cyfleoedd a’r syniadau newydd sydd eu hangen i addasu, arloesi a ffynnu.
  • 12.50-13.35: Cinio
  • 13.35-14.35: S4C i Bawb: Cynrychiolaeth ac Amrywiaeth ar y Sgrin
    Sut gallwn sicrhau bod S4C yn adlewyrchu Cymru heddiw yn ei holl amrywiaeth? Gan ddod â lleisiau o flaen y camera, byd cynhyrchu ac S4C ynghyd, bydd ein panel yn trafod pwysigrwydd cynrychiolaeth, yr heriau o greu newid gwirioneddol a sut gall y diwydiant gydweithio i roi amrywiaeth wrth galon ein straeon.
    Noddwyd y sesiwn gan Rondo Media.
  • 14.35-15.35: Sut i ariannu eich cynnwys – ac a yw’n werth e?
    Beth sydd ei angen mewn gwirionedd i sicrhau cyllid ar gyfer cynhyrchiad, a gwneud iddi dalu ei ffordd? Bydd Claire Urquhart yn arwain sgwrs agored gyda chyllidwyr, dosbarthwyr ac arbenigwyr y diwydiant, gan rannu profiadau, cyngor ymarferol a gwersi gwerthfawr i helpu cwmnïau cynhyrchu i archwilio cyfleoedd, goresgyn heriau a ffynnu.
  • 15.35-15.50: Egwyl
  • 15.50-16.50: Pwy sy'n becso am bobl? Dyletswydd gofal yn ein diwydiant
    Beth mae dyletswydd gofal yn ei olygu mewn gwirionedd yn y diwydiannau creadigol, a phwy sy'n gyfrifol? Bydd ein panel yn rhannu profiadau a syniadau ar greu amgylcheddau gwaith mwy diogel, iach a chefnogol, a pham mae rhoi pobl yn gyntaf yn bwysig. 
    Noddwyd sesiwn gan Rhaglen Hyfforddiant TAC S4C.
  • 16.50-17.00: Datgan Cwmni Buddugol: Fforwm Pitsio Realiti
  • Sesiynau Ychwanegol: 
    Comisiynwyr 1-2-1 
    PRS 1-2-1
    (Ystafell Menai Suite/Terrace)