
Mae S4C yn chwilio am syniadau creadigol, ffres a difyr ar gyfer pecyn blynyddol o gynnwys ffurf fer, fertigol, i'w gyhoeddi ar Instagram, Facebook a TikTok yn ystod blwyddyn ariannol 2027/28 (Ebrill 2027 – Mawrth 2028).
Gwerth y pecyn £200,000,
Rydyn ni eisiau cynnwys sy'n dathlu Cymru, ein pobl, ein hiaith a'n diwylliant mewn ffyrdd annisgwyl, cyfoes a thwymgalon
Bydd S4C yn comisiynu pecyn o gynnwys ffurf fer gwerth £200,000 i'w gynhyrchu a'i gyhoeddi drwy gydol blwyddyn ariannol 2027/28.
Rydyn ni'n gwahodd cwmnïau cynhyrchu a chrewyr cynnwys i gyflwyno cynnig ar gyfer y pecyn cyfan, gyda chynllun creadigol a chynhyrchu sy'n gwneud y defnydd gorau o'r gyllideb.
Gall y pecyn gynnwys fformatau rheolaidd, syniadau unigol, cynnwys amserol a fideos wedi'u creu'n benodol ar gyfer digwyddiadau a diwrnodau cenedlaethol.
Rydyn ni eisiau gweld cydbwysedd rhwng ansawdd, nifer y fideos a gwerth am arian, gyda chynllun cyhoeddi ymarferol sy'n sicrhau presenoldeb creadigol a chyson i S4C drwy gydol y flwyddyn. Mi fydd gofyn i gyfleu’r cynnwys i’w gael ei ddosbarthu gan dîm cyfryngau cymdeithasol S4C.
Rydyn ni eisiau cynnwys sy'n dathlu'r hyn sy'n gwneud Cymru'n arbennig, ein pobl, ein hiwmor, ein llenyddiaeth, ein traddodiadau a'n creadigrwydd.
Mae diwrnodau cenedlaethol a digwyddiadau diwylliannol yn gyfleoedd allweddol, gan gynnwys Dydd Gŵyl Dewi, Dydd Miwsig Cymru, yr Eisteddfodau ac achlysuron eraill sy'n bwysig i gynulleidfaoedd Cymru.
Ond dydyn ni ddim eisiau cynnwys dathlu traddodiadol yn unig.
Sut allwn ni droi'r achlysuron hyn yn gynnwys y'n gwneud i bobl wennu synnu, ymateb neu rannu ymysg ei gilydd.
Rydyn ni eisiau cynnwys sy'n teimlo'n berthnasol drwy gydol y flwyddyn, nid ar ddiwrnodau arbennig yn unig.
Mae angen i'r cynigion ddangos dealltwriaeth glir o Instagram, Facebook a TikTok, a'r gwahanol gynulleidfaoedd sy'n defnyddio'r platfformau hynny.
Dydyn ni ddim eisiau'r un cynnwys wedi'i ailgyhoeddi ym mhobman heb ystyried sut mae pobl yn ei ddefnyddio.
Rydyn ni eisiau i chi feddwl am beth sy'n gweithio orau ar bob platfform, sut mae dal sylw, a beth sy'n gwneud i bobl wylio, ymateb a rhannu.
Does dim rhaid i bob syniad ymddangos ar bob platfform. Dylai'r cynnig esbonio'r dewisiadau creadigol hynny.
Rydyn ni'n agored i syniadau sy'n cynnwys crewyr cynnwys, digrifwyr, cerddorion, cyflwynwyr neu dalent newydd.
Gall y cynnwys fod yn ddoniol, yn annisgwyl, yn gynnes neu'n gwbl wahanol i'r hyn rydyn ni wedi'i weld o'r blaen.
Rydyn ni eisiau cynnwys sydd wedi'i greu ar gyfer cyfryngau cymdeithasol o'r cychwyn cyntaf, nid darnau sy'n teimlo fel rhaglenni teledu wedi'u torri'n fyrrach.
Mae'r Gymraeg yn ganolog i'r pecyn, a dylai'r cynnwys adlewyrchu'r ffordd naturiol ac amrywiol mae pobl yn defnyddio'r iaith heddiw.
Fydd angen sicrhau bod y cynnwys a’r cynnig yn gwbl wahanol i be mae S4C yn ei gynnig ar blatfformau Hansh
Rydyn ni'n croesawu enghreifftiau gweledol, syniadau ar gyfer fideos penodol ynghyd a gwaith blaenorol sy'n dangos eich dealltwriaeth o'r platfformau.
Rydyn ni eisiau pecyn sy'n rhoi cyfle i S4C ddiddanu cynulleidfaoedd, dathlu ein diwylliant a rhannu creadigrwydd Cymru drwy gydol y flwyddyn.
Cynnwys sy'n gwneud i bobl chwerthin, teimlo'n falch, darganfod rhywbeth newydd – ac, yn bwysicaf oll, eisiau ei rannu.
Hyd at £200,000.
Nid oes angen cynnig cyllideb 36 atodlen ar y pwynt hwn.
Patrwm posibl o dri darn o gynnwys gwreiddiol wythnosol – bydd disgwyl i gynnwys pob platfform fod yn wahanol :
Bydd angen i bob pitsh fod ar ffurf ‘deck slide’ gan gynnwys:
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniad at syniad@s4c.cymru erbyn 12:00 ar ddydd Iau 28 Ionawr 2027.
Dylid cyflwyno’r ceisiadau ar ffurf PDF dim mwy na 10 tudalen.
Byddwn yn cadarnhau derbyn y syniad drwy e-bost.
Mae gwefan gynhyrchu S4C yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu os oes cwestiwn am y prosesau cynhyrchu gennych.
Mae'n fwriad gan Guto Rhun, Comisiynydd Digidol ddod i benderfyniad cyn diwedd mis Chwefror 2027. Cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus bydd angen i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C Cwmwl. Ni ddylid gwneud hyn cyn cael y gwahoddiad.
Galwad am Syniadau: Pecyn o Gynnwys Ffurf Fer ar gyfer Cyfryngau Cymdeithasol (2027/28) (PDF)