Newyddion Cynhyrchu

Newyddion Cynhyrchu

Galwad am Syniadau: Sianel YouTube Ffeithiol S4C

Ffilm Ddogfen 30’

Mae S4C yn chwilio am ffilm ddogfen unigol, hyd at 30 munud o hyd, sydd â llais creadigol cryf, cymeriadau eithriadol, a’r uchelgais i deithio ymhellach na’n llwyfannau ni.

Bydd y cynnwys ar gyfer YouTube yn gyntaf ac yn eistedd ar blatfformau digidol S4C gyda chynulleidfa darged o 25-44.

Platfform

Gwaith sydd ag awduriaeth amlwg. Gweledigaeth. Arddull. Ffilm sy’n gallu bod yn dyner, yn hardd, yn annisgwyl, yn ddoniol, yn heriol neu’n emosiynol, ond sydd bob amser yn teimlo fod rhywun wedi gwneud dewisiadau creadigol pendant am sut i adrodd y stori.

Rydyn ni’n chwilio am straeon unigol o Gymru a thu hwnt, wedi’u harwain gan bobl na allwch dynnu’ch llygaid oddi arnyn nhw.

Ein huchelgais yw creu ffilm sy’n gallu dal ei dir fel darn o gynnwys unigol, cryf, ond sydd hefyd â’r potensial i gael bywyd mewn gwyliau ffilm a dogfen, yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Mae’r ffilm Barcud yn bwynt cyfeirio da i chi ystyried wrth feddwl am ein huchelgais gyda’r alwad hon.

Y Cyfle

Rydyn ni’n rhoi’r cyfle hwn i gynhyrchwyr a gwneuthurwyr ffilm gyflwyno syniadau sy’n cynnig mwy o ryddid creadigol ac awduriaeth.

Rydyn ni eisiau rhoi lle i wneuthurwyr ffilm ddod â’u llygad, eu llais, a’u ffordd nhw o weld y byd.

Gall y ffilm fod yn arsylwadol. Gall fod yn bersonol. Gall fod yn sinematig neu’n amrwd. Gall ddefnyddio hiwmor, tawelwch, cerddoriaeth, neu ffurf mewn ffordd annisgwyl.

Ond rhaid i stori fod wrth ei chalon.

Stori Unigol

Rydyn ni’n chwilio am straeon penodol, nid pynciau eang.

Peidiwch â dechrau gyda “ffilm am iechyd meddwl,” “ffilm am hunaniaeth” neu “ffilm am bobl ifanc yng nghefn gwlad.”

Dechreuwch gyda’r person.

  • Beth sy’n digwydd yn eu bywyd nhw nawr?
  • Beth maen nhw eisiau?
  • Beth yw ei rhwystrau?
  • Beth sydd ar fin newid?
  • Beth sydd ganddyn nhw i’w ennill, neu golli?
  • Beth fyddwn ni’n gallu gweld yn digwydd, yn hytrach na chael rhywun i’w esbonio i ni?

Mae angen i’r stori allu symud. Mae angen dechrau, datblygiad a rhyw fath o gyrchfan, hyd yn oed os nad ydyn ni’n gwybod yn union beth fydd y diwedd.

Mae gennym ddiddordeb mewn straeon sydd wedi’u gwreiddio yng Nghymru, ond dydyn ni ddim eisiau gosod ffin o amgylch ein chwilfrydedd.

Gall ein prif gymeriad fynd â ni y tu hwnt i Gymru.

Ffilmiau ag awduriaeth

Mae’r briff hwn yn gyfle i fod yn uchelgeisiol yn greadigol.

Rydyn ni eisiau gwybod nid yn unig beth yw’r stori, ond sut rydych chi am ei ffilmio.

  • Beth yw’r iaith weledol?
  • Pa mor agos yw’r camera?
  • Sut mae’r byd yn swnio?
  • A oes gan y lleoliad neu’r amgylchedd rôl yn y ffilm?
  • Sut fydd cerddoriaeth, sain, golau, rhythm a golygu yn ein helpu i ddod yn agosach at y cymeriad?

Rydyn ni’n chwilio am gynigion lle mae’r ffurf yn tyfu allan o’r stori – nid arddull wedi’i gosod ar ei phen.

Does dim rhaid i hynny olygu cynhyrchiad mawr neu ddrud.

Gall syniad syml, wedi’i ffilmio gyda hyder a phwrpas, fod yn llawer mwy pwerus.

Beth rydyn ni eisiau yn y cynnig

Rydyn ni eisiau i'r cynnig wneud i ni eisiau gwylio’r ffilm.

Dywedwch wrthym:

  • Y ffilm mewn un frawddeg: Beth yw'r stori?
  • Y prif gymeriad: Pwy ydyn nhw, a pham y byddwn ni eisiau treulio 30 munud gyda nhw?
  • Beth sy'n digwydd nawr: Pam mai dyma'r foment i'w ffilmio?
  • Y daith: Ble mae'r stori'n dechrau, a ble allai fynd â ni?
  • Y mynediad: Beth allwch chi ei ffilmio, a pha berthynas sydd gennych chi eisoes â'r cymeriad?
  • Y weledigaeth greadigol: Sut ddylai'r ffilm edrych, swnio a theimlo?
  • Y gwneuthurwr: Pwy sydd y tu ôl i'r ffilm, a beth yw eu perthynas â'r stori?
  • Y Gymraeg: Sut mae'r iaith yn perthyn yn naturiol i'r ffilm?
  • Y potensial: Pam allai'r stori yma weithio i’r gynulleidfa ac ar lwyfan gwyliau?

Os oes gennych chi ddeunydd wedi'i ffilmio eisoes, clip o'r prif gymeriad, reel byr neu dystiolaeth arall sy'n dangos eu presenoldeb ar gamera, rydyn ni'n awyddus i'w weld.

Beth fydd yn gwneud i ni ddweud ie?

Yn y pen draw, rydyn ni'n chwilio am ffilm sydd yn gwneud i ni deimlo rhywbeth.

Cyn cyflwyno, gofynnwch:

  • Ydy'r prif gymeriad yn ddigon cryf i gario'r ffilm?
  • Ydyn ni eisiau gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw?
  • Oes yna stori sy'n digwydd nawr?
  • Allwn ni fynd yn agos iawn ati?
  • Oes gan y gwneuthurwr ffilm weledigaeth glir?
  • A oes rhywbeth yma sy'n teimlo'n unigryw – rhywbeth na allwn ni ei gael o unrhyw ffilm arall?

Rydyn ni eisiau stori, llais a ffilm â hunaniaeth eu hunain.

Ffilm sy'n dechrau gyda rhywun rhyfeddol – ac sydd yn ein gadael ni yn gweld eu byd ychydig yn wahanol.

Cyllideb

Hyd at £40,000.

Nid oes angen cynnig cyllideb 36 atodlen ar y pwynt hwn.

Sut i gyflwyno syniad

Bydd angen i bob pitsh fod ar ffurf ‘deck slide’ gan gynnwys:

  • Teitl cryf a chlir
  • Strapline un llinell
  • Esboniad clir o:
    • Pam YouTube?
    • Pam nawr?
    • Pwy mae’n apelio atynt?
    • Pam ei fod yn berthnasol i’r gynulleidfa yna?
  • Awgrym o luniau (thumbnails)
  • Pecyn 360 o gynnwys
  • Ychydig o wybodaeth am y tîm creadigol allweddol

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich syniad at syniad@s4c.cymru erbyn 12:00 Dydd Iau, 14 Ionawr, 2027.

Dylid cyflwyno’r ceisiadau ar ffurf PDF dim mwy na 5 tudalen o hyd.
Byddwn yn cadarnhau derbyn y syniad drwy e-bost.

Mae gwefan gynhyrchu S4C yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys gwybodaeth dechnegol, gytundebol a chyfleu os oes cwestiwn am y prosesau cynhyrchu gennych.

Mae'n fwriad gan Guto Rhun, Comisiynydd Digidol a Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol ddod i benderfyniad yn y flwyddyn newydd. Cedwir yr hawl i addasu'r amserlen a hysbysir ein bwriad drwy e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i'r syniad gael ei roi ar system gomisiynu S4C Cwmwl. Ni ddylid gwneud hyn cyn cael y gwahoddiad.

Galwad am Syniadau: Sianel YouTube Ffeithiol S4C (PDF)