Mae S4C yn gartref i amrediad eang o raglenni adloniant - o adloniant ffeithiol (Y Salon/ Priodas Pum Mil) i hen ffefrynnau stiwdio (Jonathan / Noson Lawen), o raglenni comedi ('Run Sbit /Darren Drws Nesa/Stand Yp) i raglenni cwis (Cythrel Canu/ Celwydd Noeth).
Mae adloniant yn faes prysur a chystadleuol iawn ac mae creu cynnwys sy'n berthnasol ac unigryw sy'n llwyddo i gysylltu â'n gwylwyr a'u hadlonni mor bwysig ag erioed.
Adloniant /Adloniant Ffeithiol:
Dyma gartref cyfresi megis Priodas Pum Mil, Y Salon, Hen Blant Bach a Wil ac Aeron. Er eu bod yn gwbl wahanol o ran themâu, maent yn enghreifftiau o fformatau sy'n medru dychwelyd a thyfu'n ffefrynnau i'n gwylwyr. Mae eu huchelgais yn fawr, maen nhw hefyd yn dweud rhywbeth amdanon ni fel pobol – yn siwrne, yn cyffwrdd y galon, codi gwen a'n rhyfeddu. Maen nhw hefyd yn ddrych arnon ni fel cenedl ac er yn adloniannol yn teimlo'n gyfoes a pherthnasol.
Am beth rydyn ni'n chwilio?
Mae dod o hyd i fformatau fel hyn yn bwysig i ni. Mae yna wastad le am sioeau mawr sydd yn cynnig cyfle i bawb wylio ar y cyd. Wrth feddwl am fformatau awr o hyd yr oriau brig, dylai'r syniadau fod yn deuluol gan apelio at amrywiaeth o wylwyr. Yr alwad ydi dod o hyd i gynnwys uchelgeisiol sy'n medru dychwelyd, sy'n dangos dyfeisgarwch, weithiau'n ddewr, ac yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r gynulleidfa o'i gymharu â'r gystadleuaeth. Ond yn sail i'r cyfan mae adloniant , hyder a phwrpas gydag awch yn yr hyn sy'n ein gwneud ni'n wahanol i'r sianeli eraill.
Mae cyfleoedd hefyd am gyfresi sydd â blasau cryfach a dewrach. Mae talent a chymeriadau mawr yn aml yn bwysig yma (Jonathan/Wil ac Aeron/Maggi Noggi) ac rydym bob amser yn hapus i ystyried talent newydd. Yn y slotiau wedi naw yn enwedig mae cyfle am gynnwys mwy drygionus, annisgwyl ac mae cymryd risg yn rhywbeth i'w groesawu. Mae'n bwysig ystyried yn ofalus diffuantrwydd a thôn. Wrth gynnig talent, rhaid meddwl yn ofalus os ydi'r dalent yn gweddu'n driw i'r cynnig dan sylw . Rydyn ni'n croesawu syniadau sydd â merched yn ganolog i'r cynnwys. Wrth gynnig syniadau mae:
Comedi:
Mae cael ein cynulleidfa i chwerthin a mwynhau yn hynod o bwysig ar S4C a hynny ar sawl ffurf - boed yn gomedi sefyllfa wedi ei sgriptio neu yn ddychan, yn Stand Yp neu yn sioe adloniannol llawn hwyl. Does dim nifer fawr o gyfleodd ac mae'n genre cystadleuol, gyda chomedïau sefyllfa, er enghraifft, yn cymryd amser i'w datblygu. Mae cael amrywiaeth o leisiau a chynnwys ar gyfer trawstoriad y gynulleidfa felly yn bwysig.Comedi oriau brig/teuluol:
Dyma gartref sitcom Darren Drws Nesa' a gellid hefyd ystyried cyfresi fel Y Salon yn gyfle am hwyl, comedi a chwerthin. Yn ystod yr oriau brig rhaid i'r cynnwys fod ag apêl eang i gynulleidfa eang a theuluol – yn gynnes eu naws gyda gwerthoedd cynhyrchu uchel, ond yn fwy na dim yn peri i ni chwerthin.
Comedi wedi 9 yr hwyr:
Dyma gartref 'Run Sbit, cyfresi Stand Yp gydag artistiaid fel Elis James a'n rhaglen dychan, O'r Diwedd. Yn aml, mae'r sioeau yma wedi eu gyrru gan dalent, yn le i gymryd risg, i synnu a gwthio'r ffiniau.
Wrth gynnig syniadau felly mae'n fanteisiol nodi'r dalent – yr awduron/cyfranwyr ac ati. Rhaid i'r syniadau fod yn ddewr, yn unigryw gydag ymdeimlad cryf o lais yr awdur a'r dalent sydd yn treiddio drwy'r cynnwys. Rydym yn awyddus i ddatblygu talent a hynny ar y cyd â'n cynnwys digidol Hansh. Felly'n ogystal â dathlu'n talent fwyaf ar ac oddi ar y sgrin, rydym yn awyddus dod o hyd i'r genhedlaeth nesaf o ysgrifenwyr a pherfformwyr comedi.
Cerddoriaeth:
Mae cerddoriaeth yn gonglfaen amserlen y Sianel ac yn cynnig llwyfan i ddathlu bob math o gerddoriaeth ac artistiaid - o gomisiynu gwaith newydd sbon er mwyn coffau Aberfan yn Cantata Memoria i fwynhau Bryn Terfel ar daith gerddorol yn Bryn Terfel ar Daith, o ddathlu talentau ein hartistiaid ifanc a phoblogaidd yn Gig y Pafiliwn a'r Gig Fawr a'n talentau lleol yn Noson Lawen i glywed deuawdau annisgwyl ac arbennig yn Deuawdau Rhys Meirion. Mae'r amserlen yn brysur o gerddoriaeth a hynny gan amlaf yn cael ei hamserlenni ar nos Sadwrn gan gynnig rhywbeth gwahanol ac arbennig i'r holl gystadleuaeth sydd ar y sianeli eraill.
Mae'r Sianel hefyd yn falch o'i chystadlaethau arbennig fel Cân i Gymru, Côr Cymru a Band Cymru – brandiau pwysig S4C yn ogystal â darlledu oriau o gerddoriaeth o'n digwyddiadau Eisteddfodol bob blwyddyn.
Rydym felly, o ystyried yr holl arlwy yma o gerddoriaeth, yn chwilio am syniadau gwahanol nad sy'n sathru'r un tir. Er mai prin yw'r cyfleoedd, rydym yn croesawu syniadau mawr sy'n cynnwys y talentau gorau i ddathlu 'achlysur' pwysig. Mae lle hefyd os ydi'r syniadau yn olygyddol cyffrous a rheswm penodol 'pam nawr' iddynt ystyried dogfennau cerddorol sy'n mynd ar drywydd stori /artist neu ddathliad arbennig.