S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Chwaraeon

Beth ry'n ni'n ei wneud?

Mae Cymru'n wlad sy'n angerddol am chwaraeon. Mae llwyddiant ym myd chwaraeon yn ein huno fel cenedl. Nod S4C yw bod yno am yr achlysuron hynny, boed hynny'n dilyn taith athletwr unigol, clwb lleol, neu dim cenedlaethol. Ry'n ni'n gweithio gydag amrediad o gwmnïau cynhyrchu chwaraeon annibynnol yng Nghymru yn ogystal â gyda darparwyr darlledu o'r tu allan. Mae BBC Cymru yn cynhyrchu canran o'n harlwy chwaraeon ni fel rhan o'u cytundeb oriau gydag S4C.

Beth ry'n ni ei eisiau?

Mae chwaraeon byw yn flaenoriaeth i S4C.

Mae ein cynnwys chwaraeon yn ddibynnol ar yr hawliau darlledu sydd gennym ni. Ein nod yw sicrhau'r hawliau i ddangos cymaint o ddigwyddiadau chwaraeon cenedlaethol a gwladol ag y bo modd yn fyw, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau sy'n arddangos athletwyr neu dimau o Gymru a digwyddiadau yng Nghymru.

Yn ogystal â chynnwys byw, ry'n ni'n dangos uchafbwyntiau rhai digwyddiadau ac yn comisiynu rhaglenni dogfen a straeon o fyd chwaraeon. Mae'n hanfodol fod y cynnwys hwn o'r safon uchaf a bod y straeon yn rhai cryfion, sy'n cael eu hadrodd yn effeithiol trwy greu'r sgwrs, cyffwrdd y gallon a thanio'r dychymyg.

Talent

Mae S4C yn awyddus i ddatblygu talent newydd o flaen a thu ôl i'r camera i'w hychwanegu at ein pwll o gyflwynwyr, sylwebwyr a dadansoddwyr talentog sy'n ymddangos yn reolaidd ar y sianel. Ry'n ni'n gweithio'n agos gyda'r sector annibynnol, y BBC a chorfforaethau llywodraethol i ddod o hyd i dalent newydd. Mae cyfresi fel Rygbi Pawb yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu talent.

Datblygu

Ry'n ni eisiau adlewyrchu'r chwaraeon sydd yn y penawdau yng Nghymru ac ehangu ein harlwy i gynnwys chwaraeon i fenywod a chwaraeon paralympaidd. Ry'n ni eisiau amrywio ein portffolio chwaraeon er mwyn adlewyrchu'r twf mewn poblogrwydd i chwaraeon newydd, ynghyd â pharhau i ddarlledu'r hen ffefrynnau.

Mae ein darpariaeth chwaraeon digidol yn ehangu hefyd ac ry'n ni'n cynnig mwy o gyfleoedd i wylio cynnwys byw yn egscliwsif ar-lein, sydd eto'n agor drysau portffolio mwy amrywiol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?