
Manon Edwards Ahir yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata S4C.
Mae'n gyfrifol am adran sy'n cwmpasu holl waith hyrwyddo S4C a'i gynnwys yn ogystal â dealltwriaeth o gynulleidfaoedd a dadansoddiad o berfformiad gan y tim Ymchwil Cynulleidfa.
Yn aelod o Uwch Dîm Arwain S4C mae ei rôl yn un strategol sy'n gosod cyfeiriad clir drwy Strategaeth Gyfathrebu a Marchnata y sianel, gan weithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Cynnwys i sicrhau sylw i S4C ar bob lefel.
Jodi Voyle yw Pennaeth Marchnata S4C. Mae’n arwain y tímoedd marchnata a chreadigol i hyrwyddo cynnwys S4C ar draws llwyfannau a chryfhau ymwybyddiaeth o frand S4C gyda’r nod strategol o ehangu gwylio.
Rhian Adams yw Pennaeth Cyfathrebu S4C. Mae'n arwain ar holl waith cyfathrebu'r sianel gan gydlynu ymdrechion y tim mewnol – o waith blaengynllunio a rheoli ymgyrchoedd, monitro sylw a sicrhau safon yr holl ddeunydd sy'n cael ei gynhyrchu. Mae Rhian hefyd yn gyfrifol am gyfathrebu mewnol a chorfforaethol yn ogystal â rheoli tim Gwifren sy'n ymgysylltu gyda'n cynulleidfaoedd yn ddyddiol. Mae ei thîm yn cydweithio'n agos gyda Marchnata a Digidol ar ymgyrchoedd integredig i gyrraedd cynulleidfaoedd ac hyrwyddo S4C a'i holl gynnwys.
Jess Magness yw Arweinydd Marchnata Digidol S4C. Mae Jess yn arwain ar waith marchnata digidol S4C, gan gynnwys uno cynlluniau hyrwyddo ar draws holl blatfformau S4C i gynyddu amlygrwydd ac ehangu gwylio.
James Cuff yw Arweinydd Creadigol S4C. Mae’n arwain tîm mewnol S4C Creadigol o fewn yr Adran Cyfathrebu a Marchnata gan ddatblygu brand S4C a chydweithio gyda’r timoedd marchnata a digidol i greu asedau hyrwyddo aml-blatfform.
Dan arweiniad Eilir Jones, mae'r tim Ymchwil Cynulleidfa yn gyfrifol am gasglu, rhannu a dehongli'r wybodaeth ddiweddaraf am gynulleidfaoedd S4C ar draws ei phlatfformau a thueddiadau gwylio ehangach ar draws y byd darlledu. Bydd yr holl wybodaeth sydd gennym yn cael ei defnyddio'n helaeth gan y timau Comisiynu, Cynllunio, Llwyfannau, Digidol, Marchnata a Chyfathrebu er mwyn creu cynnwys sy'n apelio ar draws cynulleidfaoedd amrywiol, ei ddarparu ar y llwyfannau mwyaf cyfleus, a denu sylw a gwerthfawrogiad i'r cynnwys hynny yn y modd mwyaf addas.