S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Darllediadau S4C o bencampwriaeth rygbi dan 20 y byd 2019 (World Rugby Under 20 Championship 2019)

Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau darlledu teledu i bencampwriaeth rygbi dan 20 y byd (www.world.rugby/u20) a fydd yn cael ei chynnal yn yr Ariannin ym Mehefin 2019.

Bydd y darllediadau'n dilyn yr un patrwm â'r blynyddoedd diweddar, sef darllediad byw o bum gêm Cymru, yn ogystal â'r rownd derfynol.

Cynhelir y gemau rhwng Mehefin 4ydd a 22ain. Mae S4C yn edrych i benodi cwmni cynhyrchu profiadol i ddarparu rhaglenni iaith Gymraeg o safon i S4C fel rhan o'i gwasanaeth Pencampwriaeth Dan 20.

Gwahoddir cwmnïau cynhyrchu sydd â phrofiad uniongyrchol o ddarparu rhaglennu chwaraeon byw, i ymgeisio drwy lenwi PQQ (holiadur cyn-gymhwyso) a'i ddychwelyd drwy e-bost at: tendr.chwaraeon@s4c.cymru erbyn 18:00 Chwefror 19eg 2019.

Bydd cwmnïau sy'n llwyddiannus yn y cam PQQ yn cael eu gwahodd i dendro. Rydym yn bwriadu dyfarnu'r cytundeb erbyn 15fed o Fawrth.

PQQ Cymraeg

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?