Mae S4C yn cyhoeddi Gwahoddiad i Dendro ar gyfer darpariaeth gwasanaethau rheoli prosiect a chynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer ymgyrch #Iaith2020 S4C. Mae'r Gwahoddiad i Dendro wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau ymateb yn y ffurf y gosodir yn y dogfennau isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r ymatebion tendro i S4C yw canol dydd, dydd Llun 9fed o Ragfyr 2019.
Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r ymateb a/neu'r broses gystadleuol hon at: cwestiynautendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais yw canol dydd, dydd Llun 25ain o Dachwedd 2019.
Atodiad 3 - Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol
Cytundeb i Ddarparu Gwasanaethau Rheoli Prosiect Ymgyrch a Chynhyrchu Deunydd Digidol
Cwestiwn 1
Ydy TAW yn daladwy ar ben yr £80,000?
Ateb 1
Ydy, mae TAW yn daladwy ar ben y ffi a dylai pob elfen o'r gwaith gael ei gostio ar wahân.
Cwestiwn 2
Pan ofynnir yn y tendr: 'Cynnig ar gyfer darparu'r gwasanaethau Rheoli Prosiect Ymgyrch gan gynnwys: 'hunaniaeth' awgrymedig ar gyfer yr Ymgyrch', pa fath o ymateb ydych chi'n ei ddisgwyl i hyn, os gwelwch yn dda?
Ateb 2
Rydym yn edrych am unrhyw syniadau a throsolwg lefel uchel o hunaniaeth ymgyrch. Ni fyddem yn disgwyl hunaniaeth gyflawn gyda lluniau a.y.b. oherwydd fe fyddwn yn gweithio'n agos gyda'r asiantaeth lwyddiannus ar y darn yma o waith unwaith caiff y cytundeb ei wobrwyo.
Cwestiwn 3
Oes gennych unrhyw ddisgwyliadau o ran yr ymgyrch gyfryngau – teledu, radio, awyr agored – neu yw hyn at ddisgresiwn yr asiantaeth?
Ateb 3
Rydym yn targedu amrediad eang o gynulleidfaoedd ac felly disgwyliwn weld defnydd o gymysgedd o sianeli a gweithgareddau cyfathrebu a marchnata yn yr ymgyrchoedd a awgrymir.
Mi fyddem yn sicr yn disgwyl i'r ymgyrch wyro'n sylweddol tuag at gynnwys digidol a chroesawn unrhyw syniadau pellach o'r asiantaeth o safbwynt beth sydd fwyaf addas ar gyfer yr ymgyrch wrth dargedu'r holl gynulleidfaoedd.
Cwestiwn 4
A ydych chi'n rhagweld bydd yr ymgyrch gyfryngau yn cynnwys hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol?
Ateb 4
Mi fyddem yn disgwyl gweld hysbysebu cyfryngau cymdeithasol wedi ei gynnwys yn yr ymgyrch gyflawn.
Cwestiwn 5
A oes gennych chi unrhyw ddisgwyliadau o safbwynt faint o gyllideb bydd yn cael ei roi ar gyfer yr ymgyrch cyfryngau neu ai penderfyniad yr asiantaeth fydd hyn?
Ateb 5
Mi fyddai disgwyl i'r asiantaeth baratoi cynllun wedi ei gostio'n gyflawn ar gyfer pob un gweithgaredd.
Cwestiwn 6
A oes angen i'r gyllideb gynnwys costau digwyddiadau?
Ateb 6
Os yw'r cynllun ymgyrch yn cynnwys digwyddiadau yna bydd angen eu costio fel rhan o'r ymgyrch gyflawn.
Cwestiwn 7
Os ydych yn mynychu digwyddiadau megis yr Eisteddfod, yr Urdd, Tafwyl a.y.b. yn barod – gall yr ymgyrch gael ei hyrwyddo yn y digwyddiadau yma fel rhan o bresenoldeb S4C?
Ateb 7
Yr ymgyrch yma fydd un o ymgyrchoedd allweddol S4C ar gyfer 2020 ac felly fe fyddwn yn disgwyl hyrwyddo'r ymgyrch yn ystod ein holl ddigwyddiadau cenedlaethol ac ymgyrchoedd arferol.
Cwestiwn 8
Sut fydd yr ymgyrch yn cael ei rannu rhwng tîm mewnol S4C a'r asiantaeth allanol? Pwy fydd yn gwneud beth?
Ateb 8
Caiff hyn ei gytuno ar ôl dewis yr asiantaeth lwyddiannus.
Cwestiwn 9
O ran y ddwy raglen deledu a gyfeirir atynt, ydyn nhw'n cael eu hyrwyddo yn unigol o dan gyllideb ar wahân neu a oes angen iddynt ddod o fewn y gyllideb yma?
Ateb 9
Bydd gan y ddwy raglen deledu gyllidebau marchnata a chyfathrebu ar wahân.
Cwestiwn 10
A fydd gan yr ymgyrch dudalen we ar wefan S4C?
Ateb 10
Bydd. Fe fydd tudalen ymgyrch ar wefan S4C ar gyfer cynnwys digidol, fforymau posib a manylion gweithgareddau.
Cwestiwn 11
Archifau S4C – a fydd modd cael mynediad am ddim i'r cynnwys?
Ateb 11
Yn dibynnu ar y syniadau o amgylch y cynnwys, gallwn edrych i mewn i hyn.
Cwestiwn 12
A ydych chi'n rhedeg arolygon yn flynyddol? Os ydych, a fyddai modd i ni ychwanegu cwestiwn am yr ymgyrch yma i helpu gwerthuso?
Ateb 12
Rydym yn rhedeg arolygon gyda'n gwylwyr trwy gydol y flwyddyn i gael ymateb gwylwyr i gynnwys a digwyddiadau S4C ac mae yna ystod o arolygon allanol y gellir eu defnyddio i helpu gwerthuso.
Cwestiwn 13
Beth yw llwyddiant i chi?
Ateb 13
Fe fyddwn yn gosod ystod o ddangosyddion allweddol perfformiad (KPIs) wrth i'r ymgyrch ddatblygu, ond y prif nod yw i greu trafodaeth am sefyllfa gyfredol a dyfodol yr iaith Gymraeg trwy gydol y flwyddyn.Y prif nod yw i gysylltu gyda'n cynulleidfa a phobl Cymru i greu trafodaeth am sefyllfa'r iaith Gymraeg heddiw. Felly, fe fyddem yn edrych am ymwybyddiaeth uchel o'r ymgyrch ac ymrwymiad i'r cynnwys a gynhyrchir boed yn gyfres deledu, cyfryngau cymdeithasol, cynnwys digidol neu weithgareddau eraill.
Cwestiwn 14
A oes penderfyniad pendant wedi ei wneud ar #Iaith2020? Neu a fyddech yn agored i gynigion eraill?
Ateb 14
Rydym yn agored i gynigion eraill.
Cwestiwn 15
Ar wahân i 'Iaith ar Daith' a 'Hanes yr Iaith', a oes unrhyw raglenni penodol arall sy'n benodol gysylltiedig ag ymgyrch #Iaith2020 yn mynd i gael eu darlledu yn 2019 – a fyddai yna'n lliwio cynnwys?
Ateb 15
Mae rhaglenni eraill a rhaglenni o'r archif yn cael eu trafod, ond y ddwy gyfres a nodir yw'r blaenoriaethau yn yr amserlen. Er hyn, bydd y pwyslais ar greu cynnwys sy'n gyson â phrif neges y prosiect sef i greu trafodaeth am yr iaith.
Cwestiwn 16
Un o'r prif bethau a ofynnir yn y briff i'r asiantaeth lwyddiannus i wneud yw 'datblygu a gweithredu brand a hunaniaeth ar gyfer yr ymgyrch'. A yw'n bosib diffinio'r hyn a olygir wrth hunaniaeth, os gwelwch yn dda? Er enghraifft: a yw'r hunaniaeth yma'n cynnwys datblygu nod brand/logo?
Ateb 16
Rydym yn edrych am unrhyw syniadau a throsolwg lefel uchel o hunaniaeth ymgyrch. Ni fyddem yn disgwyl hunaniaeth gyflawn gyda lluniau a.y.b. oherwydd fe fyddwn yn gweithio'n agos gyda'r asiantaeth lwyddiannus ar y darn yma o waith unwaith caiff y cytundeb ei wobrwyo.
Cwestiwn 17
Mae sôn yn y briff bod S4C eisiau adfywio ei safle fel congl faen yr iaith Gymraeg i bawb. A oes gofyn i ni gynnig syniadau am resymeg tu ôl i'r safle newydd yma?
Ateb 17
Na, mae'r iaith Gymraeg eisoes wedi ei sefydlu fel un o werthoedd craidd S4C.
Cwestiwn 18
A fydd costau am unrhyw gynnwys cyfryngau cymdeithasol wedi eu talu amdanynt/eu hyrwyddo yn dod o gyllideb yr ymgyrch benodol yma – neu o gyllideb ar wahân wedi ei glustnodi'n benodol ar gyfer treuliau cyfryngau digidol?
Ateb 18
Mae'r gyllideb yn cynnwys pob agwedd gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol/digidol ond costiwch bob elfen o'r ymgyrch ar wahân, os gwelwch yn dda.
Cwestiwn 19
Beth yw eich gallu yn fewnol? Er enghraifft, a oes gennych arbenigwyr aml-gyfrwng mewnol a fydd yn gallu creu cynnwys?
Ateb 19
Fe fydd hyn yn cael ei gytuno ar ôl dewis yr asiantaeth lwyddiannus, ond ni ddylai eich cais ddibynnu ar S4C.
Cwestiwn 20
A fydd disgwyl i'r asiantaeth lwyddiannus ffilmio/tynnu ffotograffau/cynhyrchu a golygu yr holl gynnwys, neu a fydd hyn yn cael ei wneud gan dimoedd mewnol S4C?
Ateb 20
Bydd S4C a'r asiantaeth lwyddiannus yn creu cynnwys – fe fydd y manylion yn cael eu cytuno ar ôl dewis yr asiantaeth lwyddiannus. At bwrpas y broses dendr, darparwch gost ar gyfer fideo 2 funud arferol, os gwelwch yn dda.
Cwestiwn 21
Beth yw'r nifer lleiaf o ddarnau o gynnwys y bydd disgwyl i'r asiantaeth lwyddiannus gynhyrchu bob mis? A oes lleiafswm o 'posts'/ffotograffau/fideos sydd eu hangen bob mis, neu a fydd hyn yn cael ei lywio gan argymhellion yr asiantaeth a defnydd o gyllideb yr ymgyrch?
Ateb 21
Bydd hyn yn cael ei lywio gan y cynllun ymgyrch llwyddiannus.
Cwestiwn 22
A oes gwybodaeth fanylach/data ar gyfansoddiadau demograffig cymdeithasol y tair cynulleidfa darged a nodir yn y briff (siaradwyr di-Gymraeg; defnyddwyr ysgafn; cynulleidfa graidd)?
Ateb 22
Ni allwn ryddhau mwy o wybodaeth manwl ar ddemograffig cymdeithasol y gwahanol gynulleidfaoedd ond mae gwybodaeth ar ffigyrau gwylwyr rhaglenni ar gael ar wefan S4C http://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/page/31291/ffig...
Cwestiwn 23
Yn yr un modd, a oes unrhyw bersonau penodol arall a allai brofi'n berthnasol wrth siapio cynnwys?
Ateb 23
Nid oes gennym fynediad i wybodaeth ar bersonau cynulleidfa penodol.
Cwestiwn 24
A fydd Iaith ar Daith yn canolbwyntio ar sefyllfa'r iaith Gymraeg heddiw yn ogystal ag mewn hanes?
Ateb 24
Bydd.
Cwestiwn 25
A fyddwn yn cael mynediad i 'sneak peaks'/darnau o ffilm 'tu ôl i'r llen' ar gyfer y gyfres 'keynote' i rannu?
Ateb 25
Byddwn yn gallu rhannu cynnwys i'r ddau gyfres arfaethedig gyda'r asiantaeth lwyddiannus i greu cynnwys.