Yn dilyn cryn ddiddordeb i gais y Comisiynydd Ffeithiol am gyfres hanes 4 x 60 yn y cyfarfod sector diwethaf, rydym wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau. Rydym yn chwilio am gyfres uchelgeisiol a beiddgar fydd yn defnyddio'r iaith Gymraeg fel cerbyd i adrodd hanes Cymru ac i ddeall mwy am ein gwlad a dyfodol yr iaith.
Anfonwch eich syniadau at y Comisiynydd Cynnwys, llinos.wynne@s4c.cymru erbyn 17.00 dydd Gwener Chwefror 8fed,2019. Wedi'r dyddiad cau bydd S4C yn ystyried yr holl syniadau a byddwn yn cysylltu â'r cwmnïau i'w hysbysu fod gennym ddiddordeb i drafod y syniadau ymhellach o fewn pythefnos.
Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich cynigion.
Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o'r cynigion a ddaw i law