Cynhyrchu

Cynhyrchu

Cynhadledd Crefft Comedi

Mae S4C yn cydweithio gyda Giddy Goat Productions a Venue Cymru – trefnwyr Cynhadledd Crefft Comedi yn Llandudno ar 9 Ebrill 2016.

Yn sgil hynny mae 8 tocyn ar gael am ddim i gynhyrchwyr sy'n teimlo y bydda nhw'n elwa o'r diwrnod.

Nod y gynhadledd yw trafod sgwennu a chynhyrchu comedi. Mae'r diwrnod yn rhedeg o 09:30 hyd 17:00. Mae'r tocyn yn rhoi mynediad i'r diwrnod (nid yw'r tocyn yn cynnwys mynediad i'r swper gyda'r nos).

Ar hyn o bryd mae'r gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar:

  • Creu cymeriadau ar gyfer comedi sefyllfa
  • Adeiladu gyrfa o "stand-up"
  • Sut i sgwennu a gwerthu jôcs amserol am y newyddion
  • Podlediadau a'r Dyfodol digidol
  • Sgwennu sgets o'r cychwyn cyntaf
  • Llyfrau: Gorffennol, Presennol a Dyfodol cyhoeddi comedi
  • Comedi yng Nghymru
  • Dangosiad arbennig o Veep
  • Comedi ar Radio 4 (comisiynydd comedi mwyaf Prydain)

Os am docyn cysylltwch â morfudd.wynne@s4c.cymru Y cyntaf i'r felin caiff falu!