S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gwasanaethau Mynediad

Isdeitlau Saesneg

Mae S4C yn ehangu apêl eu rhaglenni drwy ddefnyddio isdeitlau Saesneg. Maent yn addas ar gyfer y di-Gymraeg, aelwydydd ieithyddol cymysg ac i bobl f/Fyddar. Mae modd defnyddio isdeitlau Saesneg ar dros 80% o raglenni S4C.

Darlledir nifer o raglenni hefyd gydag isdeitlau agored (BIST) fel arfer yn ail ddarllediadau o ddramâu poblogaidd, ynghyd â rhaglenni eraill. Mae isdeitlau hefyd ar gael wrth wylio rhaglenni ar y we yn fyw neu ar alw.


Oes isdeitlau Saesneg ar gael ar gyfer y rhaglen yr hoffech ei wylio?

Edrychwch ar dudalen amserlenni i weld os oes isdeitlau Saesneg ar gael ar gyfer y rhaglenni.

Pa system sy'n darparu eich gwasanaethau teledu?

- Lloeren (Sky neu Freesat trwy ddesgl)

- Digidol Daearol (Freeview, trwy erial)

- Cebl

a dilynwch y cyfarwyddiadau cam-wrth-gam.

Lloeren Ddigidol (Sky)

Dull sydyn yw i bwyso'r botwm help a defnyddio'r saethau i droi'r isdeitlau ymlaen neu...

  1. Pwyswch y botwm services ar y teclyn llaw
  2. Gyda'r botymau saeth, symud y llinell felen i system set up
  3. Pwyso'r botwm select ar y teclyn llaw
  4. Defnyddio'r botymau saeth i oleuo'r 3ydd opsiwn sef language and subtitles
  5. Pwyso'r botwm select ar y teclyn llaw
  6. Sicrhau bod Saesneg wedi ei oleuo (os nad yw wedi ei ddewis yn awtomatig, defnyddiwch y botymau saeth i wneud hyn)
  7. Pwyso'r botwm on ar sgrîn
  8. Pwyso'r botwm save new settings ar sgrîn
  9. Pwyso'r botwm back-up ar y teclyn llaw
  10. Byddwch yn dychwelyd i'r brif ddewislen yn awtomatig
  11. Dewis S4C yn y ffordd arferol - 104 yng Nghymru (134 y tu allan i Gymru)
  12. Mi fydd yr isdeitlau yn ymddangos yn awtomatig

Unwaith fo'r rhaglen wedi dod i ben, dilynwch gamau 1-4 nes i chi gyrraedd y ddewislen language and subtitles, yna pwyswch y botwm off ac yna back-up.

Neu, pwyswch y botwm coch, dewiswch subtitles a phwyswch select i ddewis yr iaith isdeitlo.

Lloeren Ddigidol (Freesat)

  1. Trowch eich set deledu i S4C
  2. Pwyswch y botwm subtitles ar y teclyn llaw
  3. Dewiswch iaith yr isdeitlau a pwyswch 'select'
  4. Bydd yr isdeitlau yn ymddangos yn awtomatig

Mae'r blychau Freesat yn dueddol o amrywio felly mae'n werth cyfeirio at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Digidol Daearol (Freeview)

  1. Trowch eich set deledu i S4C
  2. Pwyswch y botwm subtitles ar y teclyn llaw
  3. Mi fydd yr isdeitlau yn ymddangos yn awtomatig

Unwaith fo'r rhaglen wedi dod i ben, pwyswch y botwm subtitles eto i ganslo'r isdeitlau.

Cebl Digidol

  1. Pwyswch y botwm 'subtitles' ar y teclyn llaw

I droi'r isdeitlau i ffwrdd, ailadroddwch cam 1 a gwasgu'r bwtwm 'subtitles' unwaith eto.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?