S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pecyn y Wasg W40: 2 Hydref - 8 Hydref

1. Trysorau Gareth Edwards

Rhaglen sy'n dilyn Gareth Edwards a'i wraig Maureen wrth iddyn nhw ddod i afael â'r dasg o hidlo drwy'r holl eitemau hanesyddol, gyda'r nod o greu arddangosfa o 10 eitem arbennig yn Amgueddfa Rygbi Caerdydd, ym Mharc yr Arfau.

TX: Nos Fercher 6 Hydref, 9.00, S4C

2. DRYCH: Dylan a Titw i Ben Draw'r Byd

Mae Dylan Fôn Thomas, o Chwilog, yn byw gyda Dystonia, cyflwr niwrolegol sy'n effeithio symudiadau.

Yn y rhaglen ddogfen hon cawn gamu mewn i fyd Dylan a'i berthynas unigryw gyda'i ofalwr, Titw.

TX: Nos Sul, 3 Hydref 9.00, S4C

3. Pobol y Cwm

Mae rhaid i Kelly wneud un o benderfyniadau pwysicaf ei bywyd wrth iddi ddarganfod rhywbeth erchyll am ei thad.

Cyfweliad gyda Lauren Phillips sy'n chwarae rhan Kelly Evans.

TX: Bob nos Lun i nos Iau, 8.00, S4C

4. CIC

Mae'r gyfres chwaraeon i blant yn dychwelyd gyda chyflwynydd newydd – y chwaraewr rygbi Lloyd Lewis.

TX: Bob dydd Gwener am 5.20yp ac eto bob bore Sadwrn (rhwng 8yb a 10yb), S4C

HEFYD

Pobol y Cwm

Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?

Rownd a Rownd

Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?