S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyprus v Cymru: yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C

08 Hydref 2007

Bydd y gêm rhwng Cyprus a Chymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 2008 yn cael ei darlledu’n fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C.

Bydd y darllediad ar gael yn rhad ac am ddim ar deledu daearol ar S4C ac S4C digidol, yn fyw o Stadiwm GPS, Nicosia, gyda’r rhaglen yn dechrau am 4.55pm. Bydd S4C hefyd yn dangos uchafbwyntiau estynedig o’r gêm am 10.00pm.

Bydd Pêl-droed Rhyngwladol: Cyprus v Cymru ar gael ar yr holl lwyfannau analog a digidol yng Nghymru ac ar Sky 134 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Daw’r newydd am yr hawliau darlledu ecsgliwsif i gêm Cyprus v Cymru wedi’r cyhoeddiad diweddar am gytundeb pedair blynedd gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru sy’n rhoi hawliau teledu daearol i S4C ddarlledu gemau rhyngwladol a domestig o ddechrau tymor 2008/2009.

Meddai David Collins, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Pêl-droed Cymru, “Mae’r Gymdeithas yn falch iawn y bydd S4C yn darlledu gêm Cyprus v Cymru yn fyw ar ei holl lwyfannau. Mae hyn yn dangos ymroddiad S4C i bêl-droed yng Nghymru gan adeiladu ar y berthynas rhwng y ddau gorff.”

Ychwanegodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Rydym yn falch iawn ein bod yn darlledu gêm mor bwysig yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C. Mae’n adlewyrchu ein hymroddiad mawr i bêl-droed Cymru, a danlinellir gan y cytundeb i ddarlledu pêl-droed ryngwladol a domestig yn ystod y pedwar tymor nesaf.”

Bydd tîm John Toshack yn gobeithio adeiladu ar y fuddugoliaeth ddiweddar dros Slofacia yng Ngrŵp D, gan geisio cyflawni’r dwbl yn erbyn Cyprus wedi iddynt eu curo gartref flwyddyn yn ôl.

Cyflwynir y rhaglen gan Gareth Roberts, gyda chyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Dai Davies a Malcolm Allen, yn y stiwdio yn dadansoddi’r gêm. Bydd Morgan Jones a’r sylwebwyr Nic Parry a Meilyr Owen yn Stadiwm y GPS i weld a all Cymru gadw eu gobeithion prin o gyrraedd Euro 2008 yn fyw.

Darlledir Pêl-droed Rhyngwladol: Cyprus v Cymru yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C ar ddydd Sadwrn, 13 Hydref am 4.55pm, gydag uchafbwyntiau am 10.00pm. Is-deitlau Saesneg ar gael.

Cynhyrchiad Nant ar gyfer S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?