S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu gêm ail gyfle'r Cwpan FA

14 Ionawr 2010

 Bydd gêm ail gyfle trydedd rownd y Cwpan FA rhwng Caerdydd a Bristol City i’w gweld yn fyw ar S4C nos Fawrth 19 Ionawr (y gic gyntaf am 7.45pm).

Daw’r gêm ail gyfle yn sgil y frwydr danllyd ar gae Ashton Gate nos Fawrth ddiwethaf wrth i ymosodwr Bryste, Gavin Williams,sydd wedi ennill dau gap dros Gymru, sgorio ym munudau ola’r gêm. Llwyddodd Williams i lefelu’r sgôr a sicrhau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl i Michael Chopra fwrw’r targed i Gaerdydd.

Fe wnaeth bron 500,000 o gefnogwyr pêl-droed ledled y DU droi at ddarllediad S4C o’r gêm drydedd rownd.

Tîm Sgorio fydd yn cyflwyno'r gêm ail gyfle hon yng Nghwpan yr FA, a noddir gan Eon.

Yn ymuno â'r cyflwynydd Gareth Roberts yn y stiwdio fydd cyn-ymosodwr Cymru John Hartson a chyfarwyddwr technegol yr FAW, Osian Roberts, gyda Nic Parry a Malcolm Allen yn y blwch sylwebu.

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar y gêm a bydd modd ei gwylio'n fyw ar wefan S4C, s4c.co.uk.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?