S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gêm Europa Llanelli a Motherwell yn fyw ar S4C

07 Gorffennaf 2009

   Bydd y gêm fawr rhwng Llanelli a Motherwell yn ail gymal Cynghrair Ewropa yn cael ei dangos yn fyw ac yn egscliwsif nos Iau, 9 Gorffennaf (6.45pm) ar S4C.

Bydd rhaglen bêl-droed S4C, Sgorio ym Mharc y Scarlets, Llanelli nos Iau am 6.45pm (cic gyntaf, 7.00pm) ar gyfer y gêm yn rownd gyntaf Cynghrair Ewropa pan fydd y Cochion yn amddiffyn mantais o 1-0 yn erbyn y tîm o Uwch Gynghrair yr Alban.

Y wobr i’r clwb o orllewin Cymru os gallant ennill yw lle yn yr ail rownd ragbrofol yn erbyn y tîm o Albania, KS Flamurtari Vlore.

Fe gafodd tîm Andy Legg ganlyniad gwych ym Motherwell trwy ennill yn Yr Alban gan gryfhau eu gobeithion o fynd i’r rownd nesaf. Ond fe fydd Motherwell, gyda’r rheolwr newydd Jim Gannon wrth y llyw, yn benderfynol o geisio talu’r pwyth.

Bydd y gêm ar gael ar Sky 134 a Freesat 120 yn Yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac ar Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 167 a Freesat 104 yng Nghymru.

Mae Sgorio, a gynhyrchir gan gwmni Rondo Media, yn darparu gemau byw ac uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru a’r gorau o rai o gynghreiriau mawr Ewrop yn ystod y tymor pêl-droed.

Meddai Golygydd Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands, "Rydym yn falch o allu cynnig darpariaeth fyw o gêm sydd wedi gafael yn nychymyg dilynwyr pêl-droed. Gydag S4C hefyd yn cynnig darpariaeth fyw o’r Rhyl v FK Partizan yr wythnos nesaf, mae’n adlewyrchu ymroddiad i roi sylw i ddigwyddiadau o bwys yng Nghymru yn fyw ar S4C.”

Mike Davies a Malcolm Allen fydd yn sylwebu tra bydd Gary Pritchard ar ochr y cae.

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael. O ganlyniad i waith technegol sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ni fydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gêm. Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer dechrau’r tymor pêl-droed newydd, o 15 Awst ymlaen. Bryd hynny, bydd yn rhaid i wylwyr ail-diwnio’u hoffer (neu set deledu) er mwyn dewis iaith y sylwebaeth.

Sgorio: Llanelli v Motherwell, Nos Iau, 9 Gorffennaf, 6.45pm S4C, Isdeitlau Saesneg, Gwefan: s4c.co.uk/sgorio, Band llydan: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyferS4C

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?