S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio gystadleuaeth Cân i Gymru 2010

15 Hydref 2009

  Mae S4C yn gwahodd cyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt i gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2010, sy’n cynnig prif wobr o £10,000.

Mae’n bosib i gyfansoddwyr anfon eu ceisiadau ar CD, casét neu .mp3, ynghyd â ffurflen gais sydd ar gael gyda holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Cân i Gymru: s4c.co.uk/canigymru.

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 11 Rhagfyr 2009 ac mae’n rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.

Bydd rheithgor arbennig yn ystyried bob cais cyn dewis rhestr fer o wyth cân, fydd yn cael eu perfformio’n fyw yn Venue Cymru, Llandudno ar 28 Chwefror 2010. Sarra Elgan fydd yn cyflwyno’r noson ar S4C.

Yn ogystal â’r cyfle i ennill gwobr ariannol o £10,000, bydd yr enillydd yn cael gwahoddiad i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Meddai cyn aelod Catatonia, Owen Powell, sydd hefyd yn gadeirydd rheithgor Cân i Gymru, “Mae Cân i Gymru yn gystadleuaeth unigryw sy’n rhoi’r cyfle i gyfansoddwyr profiadol a newydd i gael adnabyddiaeth eang o’u gwaith.

“Mae’r ffeinal bob tro yn achlysur arbennig, a chyda gwobr ariannol o £10,000 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn Iwerddon yn y fantol, rwy’n hyderus bydd yr ymateb yr un mor frwd eleni.”

Cwmni Avanti sy’n cynhyrchu cystadleuaeth Cân i Gymru ar ran S4C. Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Avanti ar 01443 688530 neu canigymru2010@thepopfactory.com

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?