S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ydych chi’n ddigon ffit ar gyfer her 10Jonathan?

22 Chwefror 2010

   Oes gyda chi’r gallu i ymgymryd â sialensiau corfforol eithafol? Ydych chi’n ddigon ffit ac yn barod i herio’r gorau yng Nghymru? Ai chi fydd yn ennill gwobr 10Jonathan 2010?

Mae’r arwr rygbi Jonathan Davies yn gwahodd ymgeiswyr hynod ffit i gystadlu yng nghyfres arbennig 10 Jonathan?

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i glyweliad lle bydd angen gwneud cyfres o brofion corfforol a meddyliol i ddarganfod lefelau ffitrwydd personol.

Yna, bydd deg ymgeisydd yn ymuno â Jonathan a’i gyd-gyflwynydd Sarra Elgan ar gyfer rowndiau olaf y gystadleuaeth yng Nghamp Ffitrwydd T3, Tenerife. Yno bydd yn rhaid cystadlu mewn tasgau gwahanol fel unigolion ac yn rhan o dîm.

Dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr yw 12 o’r gloch ar ddydd Llun, 22 Mawrth.

Mae holl reolau’r gystadleuaeth ar wefan y gyfres - s4c.co.uk/10jonathan - lle gallwch hefyd lawr lwytho ffurflen gais. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Avanti ar 01443 688536.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?